11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:12, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ei absenoldeb, am y gwaith a gyflawnodd ar ddatblygu a chyflwyno'r Bil hwn? Gwn y bydd yn hynod o siomedig nad oedd yma ar gyfer cam terfynol y broses, ond fe fydd yn falch iawn os caiff y Bil ei basio oherwydd yr arwydd clir y bydd yn ei roi o'n hymrwymiad i ddiogelu'r setliad datganoli gan helpu i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth i'r DU adael yr UE. Fodd bynnag, fy rôl i bellach yw helpu i lywio'r Bil drwy ei gyfnodau olaf, ac rwy'n ystyried hynny'n fraint fawr. Mae'r Bil yn gynnyrch cyfnod dwys o waith caled, i ddechrau ar ran swyddogion ac yn fwy diweddar ar ran Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd, aelodau a staff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn arbennig am fynd ati mor gyflym i ystyried y Bil ac yna i lunio adroddiad yn nodi cyfres ddefnyddiol o argymhellion, sydd wedi gwneud y Bil yn fwy cadarn.

Hoffwn gofnodi fy niolch i Simon Thomas, am ei ymagwedd adeiladol tuag at y Bil hwn. Yn sicr mae ei her a'i gymorth yn ystod y camau craffu wedi gwella'r Bil. [Torri ar draws.] Rydych yn ei dweud hi fel y mae. Bu'n ddefnyddiol iawn, ac fel rwy'n dweud, mae ei her a'i gymorth yn ystod y cyfnodau craffu yn sicr wedi gwella'r Bil.

Rhaid i mi ddiolch yn arbennig hefyd i Steffan Lewis am fod y cyntaf i hyrwyddo, gydag angerdd mawr, yr angen am Fil parhad i Gymru, ac am y cyfraniad a wnaeth i'n cael ni i'r sefyllfa hon.

Mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio'r Bil hwn.

Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir drwy gydol pob cam o'r broses hon fod y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn opsiwn wrth gefn, a dyna ydyw o hyd. Y canlyniad gorau inni o'r cychwyn yw bod Bil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU yn cael ei ddiwygio fel ei fod yn darparu parhad cyfreithiol a sicrwydd ar gyfer y DU gyfan, tra'n parchu ein setliad datganoli yn briodol. Rydym yn parhau i weithio'n galed yn y trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i'r perwyl hwn, ac rydym yn parhau'n obeithiol y gellir cyrraedd cytundeb sy'n arwain at y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE.

Fodd bynnag, rwyf am fod yn glir nad yw'r ffaith ei fod, ac yn parhau i fod yn opsiwn wrth gefn yn lleihau pwysigrwydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd heddiw, os caiff ei basio heddiw, oherwydd bydd y Bil yn gwneud dau beth hanfodol. Yn gyntaf, bydd yn ein galluogi i baratoi'n rhesymol ac yn synhwyrol ar gyfer y posibilrwydd na chaiff y Bil ymadael â'r UE ei ddiwygio mewn ffordd sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad hwn y dylid pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Un prif reswm dros gyflwyno'r Bil hwn yw nad yw ein hymagwedd tuag at y Bil ymadael â'r UE mewn unrhyw ystyr yn ymwneud â cheisio rhwystro Brexit. Byddai gwrthod cydsyniad deddfwriaethol heb ddarparu ffordd arall o sicrhau parhad deddfwriaethol yn anghyson â'n ffocws clir ar ffurf nid ffaith Brexit, i ddyfynnu fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

Pe na bai'r Cynulliad yn gallu rhoi cydsyniad, byddai'n rhaid inni sicrhau bod trefniadau amgen priodol yn eu lle i'w gwneud hi'n bosibl i gyfraith sy'n deillio o'r UE barhau yng Nghymru gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Byddai methiant i wneud hynny'n gadael dinasyddion a busnesau Cymru yn agored i sefyllfa annioddefol o ansicrwydd cyfreithiol, gyda thyllau yn y llyfr statud ar adeg Brexit. Bydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.

Yn ail, bydd pasio Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn dangos i Lywodraeth y DU fod y Cynulliad hwn o ddifrif ynglŷn â diogelu'r setliad datganoli a sicrhau y perchir canlyniadau dau refferenda ar ddatganoli yn briodol. Ni ddylid defnyddio Brexit fel esgus i danseilio awdurdod y Cynulliad hwn a chyfyngu ar ei bwerau. Ein cyfrifoldeb ni fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru yw sefyll dros ddatganoli ac amddiffyn buddiannau'r genedl. Fe'm calonogwyd gan y gefnogaeth glir ar draws y Cynulliad i'r safbwynt hwnnw. Cawn weld yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf a gyrhaeddir cytundeb ar y diwygio sy'n angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE, a byddwn yn parhau i weithio i gyflawni hynny, gan mai dyna yw'r canlyniad a ffafriwn o hyd.

Fodd bynnag, os na cheir cytundeb, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond bwrw ymlaen â gweithredu'r Bil hwn, sy'n ddarn cadarn a deallus o ddeddfwriaeth sy'n adlewyrchu'n dda ar y ddeddfwrfa ifanc ond penderfynol hon. Rwy'n cymeradwyo'r Bil i'r Cynulliad.