Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr am hynny, a rhoddaf ymrwymiad i chi ein bod yn ystyried y sector rhentu preifat yn ganolog i'r gwaith o gyflawni ein dyheadau uchelgeisiol mewn perthynas â thai yn gyntaf. Ond buaswn hefyd yn ychwanegu fy mod wedi cael cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda Tai Pawb, sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio creu cynnig tai yng Nghymru, os mynnwch, sy'n hygyrch i bawb. Mae Tai Pawb wedi gwneud rhywfaint o waith mewn dwy ardal awdurdod lleol gyda'r sector rhentu preifat yn uniongyrchol, i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid preifat ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ac i gael gwared ar y rhwystrau sydd ganddynt mewn perthynas, efallai, â syniadau rhagdybiedig ynglŷn â beth y gall cymhorthion ac addasiadau ei olygu i werth eu heiddo, ac ati. Roedd Tai Pawb yn arbennig o gadarnhaol ynglŷn â'r trafodaethau a gawsant gyda'r sector rhentu preifat yn y ddwy ardal. Felly yn sicr, ceir cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y maent wedi'i wneud yn y ddwy ardal o ran y mathau o sgyrsiau y mae'n rhaid inni eu cael, mewn gwirionedd, gyda'r sector rhentu preifat i gynyddu hyder ac agor drysau i bobl sy'n anabl neu sydd â nodweddion gwarchodedig eraill.