Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:38, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch enwi un arweinydd awdurdod lleol sydd wedi cefnogi'r cynlluniau hyn hyd yma? Nawr, mae CLlLC wedi sôn am y sicrwydd a roddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw ad-drefnu yn mynd rhagddo am 10 mlynedd. Ddoe, fe ddinistriodd cynigion eich Papur Gwyrdd y sefydlogrwydd hwnnw, yn ogystal â'r hyder, y morâl ac unrhyw allu i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol. A gaf fi ofyn cwestiwn i chi hefyd? Ar ba bwynt y codwyd hyn gyda'ch cyd-Aelodau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, ac a allwch ddweud wrthyf heddiw hefyd a gawsoch gefnogaeth pob un o'ch cyd-Aelodau Cabinet i fwrw ymlaen â'ch cynigion?