Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch, Weinidog, oherwydd roeddwn am ofyn i chi a allech gadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith andwyol rhagor o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill. Y rhain yw'r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn ystod y degawd diwethaf, ac maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd. A chyda gwerth £2.5 biliwn o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio a budd-daliadau oedran gweithio wedi eu rhewi am y drydedd flwyddyn, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i deuluoedd, a chan effeithio ar 400,000 o deuluoedd, beth fydd hyn yn ei olygu i'r teuluoedd hyn yng Nghymru?