Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Mawrth 2018.
Wel, mae Blaenau Gwent yn enghraifft ddiddorol, gan mai'r cynnig bellach yw eu cyfuno hwy â Sir Fynwy a Thorfaen. Nawr, y tro diwethaf, clywsom fod Blaenau Gwent a Thorfaen wedi cynnig uno'n wirfoddol—credaf fod Lynne Neagle wedi sôn am hyn ddoe—ond gwrthodwyd yr uno gwirfoddol hwnnw. Felly, credaf fod hon yn enghraifft yn y gorffennol lle nad oedd un o'ch rhagflaenwyr mor barod i ymgynghori ag y dylai fod, o bosibl. Felly, gobeithio y byddwch yn dilyn trywydd gwahanol os cawn gynnig gwirfoddol, yn cynnwys Torfaen a Blaenau Gwent efallai. Gobeithio y byddech yn ei ystyried, efallai, yn fwy ffafriol nag y gwnaeth Leighton Andrews.
Gan barhau at fy nhrydydd cwestiwn, cyflwynwyd dadl heddiw gan arweinydd Bro Morgannwg, a grybwyllwyd yn gynharach—John Thomas. Mae'n gwneud pwynt penodol, sef bod y Fro, ar hyn o bryd—dyma mae'n ei honni—yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau. Felly, ni wnaf unrhyw sylwadau ar hynny, ond fy nghwestiwn yw: a fyddwch yn ystyried dangosyddion perfformiad wrth i chi edrych ar y cynigion, ac i ba raddau y byddant yn effeithio ar eich ystyriaethau terfynol o ran yr uno?