Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gallwch weld, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i mi sylweddoli eich bod am wneud datganiad annisgwyl, felly rwy'n ymddiheuro am fynd dros yr un tir eto. Fodd bynnag, mae'n bwnc pwysig sydd angen cael ei drafod, fel y gwn y byddwch yn cytuno. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, roedd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'ch datganiad yn llai na chynnes. Yn wir, roedd yn wirioneddol rewllyd. Maent yn nodi bod hyn yn gwbl groes i sicrwydd a roddwyd yn flaenorol na fyddai unrhyw ad-drefnu am o leiaf 10 mlynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiadau academaidd—ac rwy'n dyfynnu— yn dod i'r casgliad mai anaml iawn y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn cyflawni'r arbedion neu'r newidiadau y gobeithiwyd eu cael yn wreiddiol.
Ar nodyn cadarnhaol, Ysgrifennydd y Cabinet, maent yn edrych ymlaen at eu cyfarfod gyda chi ddydd Gwener ac at ddadl lawn ac egnïol. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi cael eich Weetabix cyn honno. [Chwerthin.] Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn hoffi bod yn bry ar y wal i weld beth fydd yn digwydd yn y fan honno.
Yn amlwg, fe ddywedoch chi ddoe fod angen i ni fod yn obeithiol ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen diwygio llywodraeth leol, ond mae angen i ni wybod beth y mae llywodraeth leol a phobl leol eisiau ei weld ar ddiwedd y broses hon mewn gwirionedd. Pa bryd y bydd y rhan wrando hollbwysig o'r broses hon yn dechrau?