Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 21 Mawrth 2018.
Rydw i wedi trafod hyn gyda chyngor sir Benfro, ond mae ganddyn nhw fandad lleol, wrth gwrs—mandad y mae'n rhaid iddyn nhw ei weithredu. Maen nhw'n ystyried, ar hyn o bryd, oblygiadau a legasi penderfyniadau'r gorffennol ac yn edrych ar sut y maen nhw'n datblygu strategaeth gyllidebol a fydd yn sicrhau dyfodol gwasanaethau lleol a lefel resymol o dreth gyngor. Ond rŷm ni'n cytuno bod hynny'n fater iddyn nhw. Nid wyf eisiau defnyddio'r llwyfan fan hyn i gynnig sylwadau ar hynny. Fel rhywun sydd ddim yn byw yn sir Benfro, rwy'n meddwl ei fod yn fater i bobl sir Benfro i wneud y penderfyniadau yma ac i gael trafodaethau lleol yn sir Benfro, a bod y cyngor wedyn yn gweithredu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.