Carcharorion

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:12, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae sicrhau bod carcharorion o Gymru yn cael y lefel briodol o gymorth ar ôl cael eu rhyddhau yn flaenoriaeth allweddol. Fel y cyfryw, rwy'n cyfarfod â Gweinidogion y DU a phennaeth y gwasanaeth carchardai yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn briodol ar gyfer carcharorion o Gymru ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a'u bod yn cefnogi camau i leihau aildroseddu.