Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 21 Mawrth 2018.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi gwneud 19 o argymhellion a gallaf dderbyn pob un namyn un o'r rhain. Rwy'n falch o weld bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r penderfyniad hwnnw y prynhawn yma. Wrth ymateb i'r adroddiad, byddaf yn ymdrin â'r prif themâu sydd yn deillio ohono.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 10, sy'n gofyn bod memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol yn cael eu cyhoeddi cyn Cyfnod 2, gan ystyried argymhellion y pwyllgor. Dyma'r unig argymhelliad nad wyf yn medru ei dderbyn. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn darparu mecanwaith ar gyfer diwygio'r memorandwm esboniadol ar ôl trafodion Cyfnod 2 ac mae hyn wedi dod yn arfer safonol. Pe bai'r Bil hwn yn mynd ymlaen ymhellach, byddwn yn falch iawn o gyhoeddi memorandwm esboniadol diwygiedig ar ôl Cyfnod 2, gan ystyried unrhyw newidiadau a wnaed i'r Bil. Am y rheswm hwn, nid wyf yn teimlo y byddai'n briodol i dderbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ystyried a oes tystiolaeth fwy cadarn nawr ar gael ac i asesu a oes angen newidiadau i'r amcangyfrifon cost yn sgil hynny, a byddaf yn rhoi diweddariadau ysgrifenedig i'r pwyllgor wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn ymateb Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymgynghoriad y pwyllgor ar y Bil, cododd nifer o bryderon ynghylch ei swyddogaethau. Mae argymhellion 7, 8, 9 a 18 yn ymdrin â'r rhain ac rwy'n hapus i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r Bil i ymdrin â'r pryderon hyn. Bydd y rhain yn sicrhau cyfrinachedd gwybodaeth ac amddiffyn yr archwilydd rhag hawliadau difenwi. Mae’r Bil yn ailadrodd y gofyniad cyffredinol i’r archwilydd osod copi ardystiedig o gyfrifon yr ombwdsmon o flaen y Cynulliad o fewn pedwar mis. Bydd angen ystyried y cais i newid hwn, yn argymhelliad 9, yng nghyd-destun gwaith ehangach y pwyllgor ar y gofyniad hwn.
Nid yw'r ombwdsmon yn dod o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae gennym ombwdsmon dwyieithog sy'n gweithredu swyddfa gydag ethos dwyieithog, ond mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau i'r dyfodol. Felly, yr wyf yn derbyn argymhelliad 6 a byddaf, mewn ymgynghoriad ag eraill, megis Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn ystyried sut y gellir cyflawni hyn orau.
Mae nifer o'r argymhellion yn ymwneud â diweddaru’r asesiad effaith rheoleiddiol. Dyma argymhellion 11 i 17 ac argymhelliad 19. Yr wyf yn fodlon derbyn yr holl argymhellion hyn. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol wrth y pwyllgor fy mod yn croesawu ei benderfyniad i gomisiynu cynghorydd arbenigol i adrodd ar oblygiadau ariannol y Bil. Rwy'n falch o nodi fod yr ymgynghorydd arbenigol hwn yn gefnogol i ymestyn pwerau'r ombwdsmon yn y pedwar prif faes. Yn y bôn, mae’r argymhellion hyn yn delio â'r costau posib yn deillio o’r Bil gan argymell bod mwy o waith yn cael ei wneud i ddangos amrediad y costau hynny.
Er enghraifft, o ran argymhellion 11 a 12, mae’r ffigurau a gynhwysir yn yr asesiad yn adlewyrchu tystiolaeth a dderbyniwyd gan yr ombwdsmon ar gostau. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na pharod i ailystyried lefelau'r amcangyfrifon hyn a diwygio'r asesiad os oes angen. Rwy'n credu ei fod yn werth nodi y byddai unrhyw newidiadau yn y cyd-destun hwn yn lleihau costau cyffredinol y Bil.
Mae argymhellion 14 a 15 yn ymwneud â chostau sy'n gysylltiedig â chwynion llafar. Rwy'n credu bod gwerth mewn nodi fod gan yr ombwdsmon ddisgresiwn ar hyn o bryd i dderbyn cwynion llafar o dan y Ddeddf bresennol, Deddf 2005. Felly, ni fydd pob cwyn llafar yn arwain at faich gwaith ychwanegol i'r ombwdsmon, ond rwy’n barod i ystyried dadansoddiad pellach ar 40 y cant o gwynion yn cael eu gwneud ar lafar.
Mae argymhelliad 17 yn ymwneud â rhan bwysig y Bil sy’n delio ag ymchwilio i ddarpariaeth llwybr gofal cyhoeddus a phreifat ar y cyd. Byddaf yn ymgynghori yn bellach yn y maes hwn i geisio am fwy o fanylion.
Rwyf hefyd yn hapus i sicrhau bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn y pen draw yn cydymffurfio â'r canllawiau yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys Ei Mawrhydi, sef argymhelliad 19.
Nid yw’n fwriad yn y Bil i darfu ar draws rhwymedigaethau statudol eraill. Mae argymhellion 2, 3 a 5 yn dangos bod aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn pryderu, o bryd i'w gilydd, am y perygl posibl o ran dyblygu gwaith rhwng yr ombwdsmon a gwahanol reoleiddwyr. Rwy'n gobeithio y llwyddais i roi sicrwydd i'r pwyllgor am y gwahaniaeth rhwng rôl yr ombwdsman a rheoleiddwyr eraill, ac, er y gallant edrych ar yr un ystod eang o faterion, maent yn edrych arnynt o ddau safbwynt hollol wahanol. Mae'r trefniadau o fewn y Bil yn adlewyrchu'r rhai sydd ar hyn o bryd yn Neddf 2005, ac yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, i alluogi mwy o gydweithio. Serch hynny, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion 2, 3 a 5 i sicrhau cydweithio da, cadw cofnodion priodol a rhoi ystyriaeth ddyledus i rwymedigaethau eraill sy'n deillio o'r gyfraith.
Hoffwn i sôn yn gryno am adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a diolch i aelodau'r pwyllgor hwnnw am ystyried y Bil. Rwyf yn falch iawn bod y pwyllgor wedi cymeradwyo'r dull yr ydym wedi'i ddefnyddio gyda'r Bil hwn wrth gynhyrchu darn cyfunol o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn ddwyieithog. Cofiwch fod Deddf wreiddiol 2005 yn Ddeddf Tŷ'r Cyffredin ac ar gael yn Saesneg yn unig. Rydw i hefyd yn falch bod y pwyllgor yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi'i gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r cydbwysedd hwn wedi dod o Ddeddf 2005, ac wedi'i seilio ar yr ymgynghoriad ar gyfer y Bil drafft. Mae'r rhannau o'r Ddeddf wreiddiol sydd eisoes mewn grym wedi bod yn effeithiol ac wedi gweithio'n dda dros y 13 mlynedd diwethaf.
Yr wyf yn fodlon derbyn yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor materion cyfansoddiadol, yn amodol, wrth gwrs, ar y trafodaethau angenrheidiol gyda Llywodraeth Cymru, gan fod y ddarpariaeth hon yn ymwneud â phwerau posib Gweinidogion Cymru o dan y Bil.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed beth sydd gan y Plenary i'w ddweud ar y Bil ac ar yr adroddiadau, ac, wrth gwrs, ymateb i'r ddadl maes o law. Diolch, Dirprwy Lywydd.