Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed ein bod wedi adrodd ar y Bil hwn ar 9 Mawrth ac un argymhelliad yn unig a wnaethom i'r Aelod sy'n gyfrifol, ac o ganlyniad, bydd fy nghyfraniad yn gymharol fyr.
Mewn perthynas â'r angen am y Bil, rydym yn croesawu'r dull a fabwysiadwyd gan yr Aelod sy'n gyfrifol wrth ddarparu Bil sy'n ddarn cyfunol o ddeddfwriaeth, ac rydym yn credu ei fod yn cynrychioli'r dull arfer gorau roedd y pwyllgor a'n rhagflaenodd yn ei hyrwyddo yn ei adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru'. Bydd yn sicrhau bod deddfwriaeth bwysig yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. Ni ddylid tanbrisio manteision hyn i ddinasyddion Cymru.
Fel rydym yn ei wneud wrth graffu ar bob Bil, rhoesom ystyriaeth i'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a gaiff ei adael i is-ddeddfwriaeth. Rydym yn fodlon ar y Bil yn hyn o beth. Mewn perthynas â sut y bydd yr ombwdsmon a Chomisiynydd Plant Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, rydym yn cytuno â'r Aelod sy'n gyfrifol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y dylid nodi'r manylion ar wyneb y Bil. Hyderwn y bydd yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol.
Gan droi yn awr at bwerau Harri VIII, rydym ni a'r pwyllgor a'n rhagflaenodd wedi craffu'n drylwyr ac yn rheolaidd ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Er bod nifer sylweddol o bwerau o'r fath yn cael eu defnyddio y Bil hwn, nodwn eu bod yn gul o ran eu cwmpas. Nodwn ymhellach fod chwech o'r naw pŵer Harri VIII yn ymwneud ag ymgynghori. Am y rheswm hwnnw, rydym yn fodlon â'u defnydd yn y Bil hwn. Fel y pwyllgor sy'n gyfrifol am graffu ar is-ddeddfwriaeth, byddwn yn gallu monitro defnydd Gweinidogion Cymru o'r pwerau hyn yn ofalus, os caiff y Bil ei basio.
Mae fy sylwadau terfynol yn ymwneud ag adran 78 o'r Bil. Mae adran 78(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud
'(a) darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig neu atodol, a
'(b) darpariaethau darfodol, trosiannol, neu arbed,
'sydd yn eu barn hwy yn angenrheidiol neu’n hwylus'.
Rydym wedi bod o’r farn yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio dull mwy penodol yn hytrach na’r pwerau mwyaf eang sydd ar gael iddi. Ni ddylai’r pwyllgor hwn fod yn eithriad. Rydym yn pryderu'n arbennig mewn perthynas â'r geiriau 'angenrheidiol neu'n hwylus'. Yn ein barn ni, byddai'r gair 'angenrheidiol' yn ddigon. Mae ein hunig argymhelliad yn awgrymu bod yr Aelod sy'n gyfrifol yn cyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' yn adran 78(1).
Nawr, diolch i'r Aelod am ei ymateb ffurfiol i'n hadroddiad a'r sylwadau y mae newydd eu gwneud. Nodaf ei fod yn credu y bydd y pŵer i wneud darpariaeth sy'n angenrheidiol o dan adran 78 yn ddigon ac am y rheswm hwnnw, gellid dileu 'hwylus'. O ganlyniad, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i ddwyn y mater hwn i sylw Gweinidogion Cymru yn yr wythnosau nesaf.
Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyflwyno gwelliant i egluro bod y pŵer yn adran 78 yn ymestyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Pe bai gwelliant yn cael ei gyflwyno, ein barn ni, wrth gwrs, yw y dylai, fel pŵer Harri VIII, fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Diolch.