Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 21 Mawrth 2018.
Roeddwn yn arbennig o awyddus i gyfrannu yn y ddadl hon, gan i mi fod yn wirfoddolwr gyda dwy elusen gymunedol a oedd yn darparu neu'n gweithio gyda thrafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r profiadau a gefais yn atgyfnerthu'n llwyr yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud heddiw am ddiben a chanlyniadau sefydliadau trafnidiaeth gymunedol sy'n aml yn gydgynhyrchiol. Fel y gwyddom o enghreifftiau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, mae rhai o'r sefydliadau hyn yn mynd y tu hwnt i fod yn wasanaeth ar alwad syml ac yn dod yn rhagweithiol iawn yn eu cymunedau mewn ymateb i heriau unigrwydd ac arwahanrwydd.
Roedd un o'r sefydliadau yr oeddwn yn gysylltiedig â hwy'n gweithio'n uniongyrchol gyda gyrwyr gwirfoddol gan ddefnyddio eu ceir eu hunain. Yn yr un achos hwnnw, gwelsom wrthwynebiad i'n gwaith gan gwmni tacsi lleol, a oedd yn cwyno bod ein gyrwyr yn codi prisiau is ac yn eu hamddifadu o fusnes. Rwy'n tybio bod Kirsty Williams yn gwybod am beth rwy'n sôn. Mae'n bur debyg, rwy'n meddwl, i'r ddadl y mae cwmnïau trafnidiaeth masnachol yn ei gwneud er mwyn ysgogi adolygiad o'r trwyddedau a roddir o dan adran 19 ac adran 22 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Gallwch weld pam y maent yn gwneud yr achos: maent yn ddarostyngedig i fwy o gyfyngiadau, a rhaid iddynt dalu eu gweithlu. Ond yn fy marn i, mae'n ddadl gwbl ffug, ac yn un sy'n mynd yn arbennig o gymhleth lle y gofynnir i sefydliad trafnidiaeth gymunedol gan drigolion heb fodd o deithio i lenwi'r bwlch yn y bôn a adawyd wedi i weithredwr masnachol ddileu gwasanaeth am ei fod yn amhroffidiol. I bob pwrpas, dyna'r sefyllfa sy'n wynebu DANSA sy'n gweithredu yng ngorllewin fy rhanbarth ac yn nyffryn Aman heddiw. Os caf eu dyfynnu, byddai cael gwared ar adrannau 19 a 22 o'r gyfundrefn drwyddedu yn 'drychinebus'.
Cyhoeddir trwyddedau adran 22 i gyrff sy'n gofalu am anghenion cymdeithasol a lles un neu fwy o gymunedau. Os caiff y cymunedau hynny eu hesgeuluso gan weithredwyr masnachol, nid yw anghenion y gymuned honno'n diflannu dros nos. Yn wir, buaswn yn dadlau bod anghenion cymdeithasol a lles y cymunedau hynny yn debygol o gynyddu os yw pobl yn methu teithio o'u pentref, gan fod tacsis yn ddrud ac nid ydych ond yn eu defnyddio pan fydd gwir raid i chi wneud hynny.
Rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau eraill sut y gall trafnidiaeth gymunedol helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae DANSA yn enghraifft arbennig o dda o sefydliad o'r fath, sy'n mynd ati'n rhagweithiol i drefnu teithiau a digwyddiadau ar gyfer pobl hŷn neu bobl eraill sy'n agored i niwed sydd mewn perygl o fod yn unig ac wedi'u hynysu. Felly, nid gwasanaeth bws sy'n ymateb i alwadau yn unig ydynt. Dyna pam yr hoffwn i Lywodraeth Cymru—. Rwy'n sylweddoli mai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n ymateb i hyn, ond nid dadl am gystadleuaeth drafnidiaeth yn unig yw hi, er mai dyna sut y cafodd ei chyflwyno i'r Adran Drafnidiaeth. Fel y mae ymgynghoriad cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar fysiau yn ei ddadlennu eisoes, ni all trafnidiaeth gymunedol lenwi'r bylchau hynny bob amser beth bynnag. Ac fel roeddem yn dadlau gyda'r cwmni tacsis hwnnw ym Mhowys, rydym yn sôn am deithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn methu teithio oni bai am drafnidiaeth gymunedol, ac weithiau am resymau'n ymwneud â chost yn unig.
Efallai y bydd yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa gan Gydffederasiwn y GIG fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn gallu contractio gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol i ddarparu teithiau nad ydynt yn achosion brys i'r ysbyty ac oddi yno. Gall hwn fod yn drefniant defnyddiol iawn, ac yn ffrwd dda o incwm craidd i lawer o ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol. I fod yn onest, ni allaf weld y gwahaniaeth athronyddol rhwng hyn ac awdurdod lleol yn contractio trafnidiaeth gymunedol i wasanaethu cymunedau anodd eu cyrraedd. Er hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gall teithiau car fod yn eithaf hir rhwng y cartref a'r ysbyty, a'u gwneud yn hwy os yw'r car, neu'r bws, weithiau, yn casglu a gollwng cleifion eraill yn rhan o'r daith.
Rwy'n cofio achos penodol lle'r oedd tair menyw'n teithio o ardal wledig yn Sir Frycheiniog i ysbyty Felindre. Nid oedd eu triniaethau canser ond yn para ychydig funudau, ond treuliasant ran sylweddol o'r dydd yn gaeth mewn car, yng nghwmni dieithriaid, yn teimlo'n ddigon tila, ac yn teithio o dŷ i dŷ yn casglu'r teithwyr eraill. Dywedwyd wrth y menywod hyn yn y bôn mai dyma oedd y gwasanaeth y gallai'r wladwriaeth ei ddarparu ar eu cyfer, er mai mewn car nid mewn ambiwlans y teithient. Nid oedd yn wasanaeth a ganolbwyntiai ar yr unigolyn mewn gwirionedd yn fy marn i. Byddai mynediad uniongyrchol at geir cymunedol wedi rhoi cyfle i'r menywod hynny—a chredaf y gallent fod wedi'i gael—i wneud y daith ar eu pen eu hunain, hyd yn oed pe baent wedi gorfod talu cyfraniad bach tuag at y daith. Dyma lle mae sefydliadau fel cynllun ceir cymunedol Pontarddulais a'r cylch yn well: mae'n rhatach na thacsi ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd ag amser efallai i ymateb i anghenion teithiwr heb wylio'r cloc, ac yn anffodus, mae'n rhaid i yrwyr tacsis wneud hynny.
Byddai cylchoedd cyllido tair blynedd o gymorth enfawr i sefydliadau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond rwy'n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar bwynt 3(c) y cynnig yn benodol, a dyna pam rwyf am i chi ystyried hon yn ddadl ynglŷn â lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac nid trafnidiaeth yn unig. Fel y clywsom gan Mark Isherwood ac Angela Burns, mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â Llywodraeth Cymru a bod yn draws-sector o fewn adrannau'r Llywodraeth, er bod angen iddynt roi sylw i hyn wrth gwrs. Mae'n ymwneud â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector—cymdeithas ei hun—yn cydnabod bod symudedd, cysylltedd os mynnwch, yn creu dewisiadau a rhyddid i arfer y dewisiadau hynny. Felly, mae cyllido'r cysylltedd hwnnw'n gyfrifoldeb sy'n rhaid i bawb ei rannu, ac nid mater ar gyfer cyllideb adrannol seilo'n unig ydyw.