Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 21 Mawrth 2018.
Rwy'n falch o ddweud mai fy mwriad o hyd yw nodi ein cynigion manwl ar gyfer diwygio sut y cynlluniwn ac y darparwn wasanaethau bws lleol yn y dyfodol agos, ac fel rhan o'r cynigion hynny byddaf yn awyddus i sicrhau bod darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn gallu gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i gefnogi'r sector trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, ac rwy'n falch o adrodd wrth yr Aelodau fod camau eisoes ar waith. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol ers blynyddoedd lawer, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Darparwyd cyllid craidd i'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ers nifer o flynyddoedd i gefnogi a datblygu'r sector, a bydd y cyllid hwn yn parhau yn 2018-19. Do, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol o £250,000 y mis diwethaf i ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer gweithredwyr y gallai fod angen iddynt wneud cais am drwyddedau gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ond mae Mark Isherwood yn iawn i ddweud mai swm cymharol fach o arian yw hwn ac mae angen inni gael eglurder ynglŷn â faint y gall Cymru ddisgwyl ei gael.
Gan weithio gyda'r sector yng Nghymru, mae angen inni ystyried yn ofalus iawn hefyd beth fydd effaith bosibl unrhyw newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu hargymell i'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Mae cyfundrefn y gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fwy trwyadl na'r gyfundrefn drwyddedu, ac mae'n iawn iddi fod felly. Ond nid yw gorfodi gweithredwyr i ysgwyddo'r costau ychwanegol posibl hyn pan fo'r manteision i deithwyr yn fach iawn yn ateb ymarferol. Rhaid caniatáu i weithredwyr redeg gwasanaethau i deithwyr o dan y gyfundrefn drwyddedu fwyaf priodol.
Gan ein bod bellach mewn sefyllfa i asesu effaith bosibl argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer cyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith negyddol bosibl ar wasanaethau a ddarperir o dan y gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Un o'r themâu allweddol a ddeilliodd o'r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais yn Wrecsam y llynedd oedd yr angen am gytundeb ariannu mwy cadarn rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r diwydiant bysiau. Credaf fod hyn wedi'i gydnabod yn dda ers yr uwchgynhadledd, ac yn yr hinsawdd ariannol heriol sy'n parhau ar gyfer y sector cyhoeddus, rwyf wedi parhau i flaenoriaethu'r arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau bws lleol. Rwyf wedi cynnal lefel y cymorth ar gyfer y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn am y bumed flwyddyn, ac mae fy arweiniad i awdurdodau lleol yn datgan y dylid neilltuo o leiaf 5 y cant o'r cyllid hwn i gefnogi trafnidiaeth gymunedol yn eu hardaloedd lleol. Mae ein cyllideb ddangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ar ôl hynny yn cynnal yr ymrwymiad cyllidebol hwn ymhellach, felly rydym yn darparu'r sefydlogrwydd cyllidol sydd ei angen i gynllunio a darparu ein gwasanaethau bysiau lleol.
Rhaid imi ddweud, serch hynny, fy mod wedi fy syfrdanu wrth glywed rhai sylwadau gan y Ceidwadwyr a fyddai'n awgrymu mai'r Llywodraeth hon sydd ar fai am natur fregus gwasanaethau bws lleol ac am seilwaith rheilffyrdd sy'n gwegian. Y ffaith amdani yw, yn y lle cyntaf, mae gwasanaethau bysiau yn agored i niwed oherwydd trychineb dadreoleiddio gan Lywodraeth Geidwadol yng nghanol y 1980au, ac yn ail, mae strwythur rheilffyrdd yn gwegian oherwydd tanariannu difrifol ar rwydwaith llwybr Cymru yn sgil penderfyniadau gan yr Adran Drafnidiaeth yn y cyfnod rheoli presennol, lle na ddyrannwyd prin fwy nag 1 y cant o'r arian ar gyfer llwybr Cymru, er ei fod yn cynnwys tua 10 y cant o'r trac.
Ond yn hytrach na chael ein llusgo i ymarferiad sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwrpas, hoffwn dalu teyrnged i'r sector trafnidiaeth gymunedol am gadw'r eitem hon ar frig yr agenda trafnidiaeth. Mae'n siomedig fod y defnydd parhaus o system drafnidiaeth gymunedol ym Mhrydain wedi bod yn destun cymaint o ansicrwydd. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno. Rwyf hefyd yn cytuno gyda chanfyddiadau Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin y gellid barnu bod rhai o'r sylwadau a gynhwyswyd yn llythyr yr Adran Drafnidiaeth ar 31 Gorffennaf y llynedd yn annoeth, waeth pa mor dda oedd y bwriad. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd wedi hynny yn lleddfu rhywfaint ar rai o'r pryderon ar draws y sector, ac er y gallwn groesawu'r ymrwymiad i gadw'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, mae gwaith i'w wneud o hyd i berswadio Llywodraeth y DU fod rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hargymell yn parhau i fod yn achos pryder mawr.
Un enghraifft o'r fath, Ddirprwy Lywydd, yw'r cyfyngiad ar allu gweithredwyr trwyddedau i wneud cais am gontractau gwasanaethau cyhoeddus—dim ond os yw gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus heb wneud hynny. Mewn rhai ardaloedd, mae'n bosibl mai cystadleuaeth gan ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol yw'r unig gystadleuaeth am gontractau sector cyhoeddus. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhannu fy safbwyntiau a safbwyntiau'r sector yng Nghymru gyda'r Adran Drafnidiaeth fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, ac o ystyried ei bwysigrwydd i ddarparu gwasanaethau bws lleol i rai o'r bobl a'r cymunedau mwyaf bregus yng Nghymru, mae'n fwriad gennyf rannu'r wybodaeth hon a fy ymateb ffurfiol gydag Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.