Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Ebrill 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan ddigwyddodd datganoli ym 1999, dywedasom bryd hynny bod pethau'n mynd i fod yn wahanol, bod gwleidyddiaeth yn mynd i fod yn wahanol. Y bore yma, ysgrifennodd eich Llywodraeth, a chi yn benodol, lythyr at y Llywydd yn nodi eich bod yn bwriadu ceisio dyfarniad cyfreithiol gan y llys i atal dadl yn y Siambr hon rhag cael ei chynnal yfory. Yr unig le y gallwn ni ddod o hyd i unrhyw gymariaethau tebyg yw gwlad yr Aifft, lle mae'r weithrediaeth yn ceisio atal y ddeddfwrfa rhag dadlau a thrafod a phleidleisio ar gynnig sy'n dod ger ei bron yr ystyrir ei fod yn gymwys. Pam ydych chi'n ceisio tawelu'r Cynulliad?