Mawrth, 17 Ebrill 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Lynne Neagle.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ51981
2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ladd-dai annibynnol yng Nghymru? OAQ51983
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Ngorllewin Clwyd? OAQ51967
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gorsaf bws yng nghanol dinas Caerdydd? OAQ52011
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y grant gwisg ysgol? OAQ52013
6. Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru? OAQ51975
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg? OAQ51969
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ52012
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu ffermwyr a pherchnogion anfeiliaid yr effeithir arnynt gan y prinder presennol mewn porthiant yng Nghymru? OAQ52005
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad. Huw Irranca-Davies.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: diweddariad a chamau nesaf y grant datblygu disgyblion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog dros yr amgylchedd ar yr amgylchedd yng Nghymru. Galwaf ar Hannah Blythyn i gyflwyno'r datganiad.
Symudwn ymlaen at eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru o wasanaethau iechyd rhyw, a galwaf ar...
Eitem 7 yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Egni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.
Eitem 8 ar yr agenda yw’r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai ac...
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar atgyweirio cefnffyrdd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia