Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 17 Ebrill 2018.
Wel, dyma'r gŵr sy'n amddiffyn Enoch Powell. Dyma'r gŵr sy'n amddiffyn Enoch Powell, ac mae'n ceisio pregethu i ni am foesoldeb. 'Edrychwch yn ofalus arnoch chi eich hun' yw fy ymateb i hynny. Nid oes unrhyw un yn awgrymu bod unrhyw un uwchlaw'r gyfraith, ond byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod a oes unrhyw beth a ddywedais y mae e'n anghytuno ag ef.