Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Ebrill 2018.
Diolchaf i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd eisiau gweld safonau uchel o les anifeiliaid yn ein lladd-dai, ac mae hynny, wrth gwrs, yn wir am ladd-dai annibynnol hefyd. Gwn fod yr un yn fy etholaeth i yn falch iawn o'r modd parchus y maen nhw'n trin anifeiliaid. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn dal i ystyried teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, ac mae'n ymddangos nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto. A gaf i ofyn pa gymorth ariannol penodol y byddwch chi'n ei gynnig i ladd-dai, a lladd-dai annibynnol yn benodol, ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad yn hynny o beth?