Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Ebrill 2018.
Wel, yn gyntaf oll, mae swyddogion datblygu tîm lleol Cyswllt Ffermio wrth law i roi cyngor ac arweiniad. Rydym ni'n disgwyl i'r tywydd wella, wrth gwrs, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, a gallai hynny ddarparu rhywfaint o ryddhad. Rydym mewn cysylltiad ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, y mae pob un ohonyn nhw yn monitro effaith y tywydd gwlyb parhaus ar fusnesau fferm. Ac, wrth gwrs, fel rhan o'r gwaith monitro hwnnw, byddwn ni'n parhau i ystyried yr hyn y gellir ei wneud i helpu ffermwyr.