Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 17 Ebrill 2018.
Prif Weinidog, cyhoeddodd Cyngor Casnewydd ei gynllun meistr ar gyfer dyfodol canol dinas Casnewydd yn ddiweddar, ond yn anffodus roedd yn cynnwys cyn lleied o fanylion a chyn lleied o ran cynigion pendant fel mai dim ond 24 o ymatebion a ddenwyd. A wnaiff ef ymuno â mi i annog Cyngor Dinas Casnewydd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae cael gwared ar dollau Pont Hafren yn eu cynnig a buddsoddi'n wirioneddol yng nghanol Casnewydd fel ein bod ni wir yn elwa ar y cyfleoedd hynny?