Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 17 Ebrill 2018.
Ie, diolch am yr ateb yna. Rwy'n credu mai canolfan drafnidiaeth yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, ac rwy'n credu mai rhan hanfodol o hynny fydd darparu gorsaf goetsys yn rhan o'r cynlluniau cyffredinol ar gyfer y Sgwâr Canolog. A oes gennym ni unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd y bydd gorsaf goetsys newydd yn rhan o'r prosiect terfynol?