Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 17 Ebrill 2018.
Y trydydd pwynt, felly, yw effeithiolrwydd—wel, amser a ddengys. Amser a ddengys. Yr hyn na fyddwn yn ei gefnogi fyddai unrhyw gamau milwrol a fyddai'n peryglu bywydau sifiliaid. Mae hynny'n fantais propaganda i wledydd eraill—hwb propaganda.
Ond bu ymosodiad cemegol gan weithrediaeth Assad; rwyf wedi fy argyhoeddi o hynny. Yn ail, rwy'n credu mai bwriad lansio'r taflegrau hyn oedd lleihau neu gael gwared ar y gallu i gynnal ymosodiad cemegol yn y dyfodol. Does bosib nad yw hynny'n rhywbeth y dylid ei groesawu er mwyn atal yr ymosodiadau hynny rhag digwydd yn y dyfodol. Ond o ran cynyddu gweithredu milwrol, na, nid oes unrhyw beryglon mawr o hynny.