Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 17 Ebrill 2018.
Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os caf, a'r cyntaf gan Weinidog yr Amgylchedd ar yr ymateb i'r llifogydd yn Ynys Môn ym mis Tachwedd? Un o'r camau gweithredu pwysicaf i'w gymryd yn achos llifogydd Llangefni, yn sicr, oedd bod monitro yn digwydd rŵan er mwyn deall sut mae'r afon Cefni yn ymddwyn ac er mwyn gallu cynllunio camau gwrth-lifogydd. Rydw i'n deall bod gweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, oedd fod i wneud y gwaith monitro yna, rŵan wedi cael eu tynnu yn ôl i weithio ar rannau eraill o waith yr asiantaeth. Nid wyf i'n credu bod hynny'n dderbyniol, oherwydd heb wneud y monitro rŵan, mae'r bobl leol yn mynd i barhau i fyw mewn ofn bod y gawod law nesaf yn mynd i greu'r un math o ddinistr eto. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog i egluro'n union beth sy'n digwydd ac i gael y math o sicrwydd mae pobl yn yr ardal yna'n chwilio amdano fo?
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ydy un gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg. Mae cynghorwyr yn Ynys Môn yn hynod siomedig ar ôl cael eu gwahodd i swyddfeydd Llywodraeth Cymru i sesiwn panel adolygu annibynnol i drafod dyfodol cynghorau tref a chymuned. Maen nhw’n siomedig gan fod y gwahoddiad yn gofyn iddyn nhw ddweud ymlaen llaw os ydyn nhw am gyfrannu yn Gymraeg, ac os nad oes 10 y cant yn dweud ymlaen llaw eu bod nhw am wneud hynny, byddan nhw’n tybied eu bod nhw’n barod i gymryd rhan yn Saesneg. Rydym yn sôn yn fan hyn am gynghorwyr sy’n gweithredu yn Gymraeg yn eu gwaith dydd i ddydd yn eu cynghorau yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad gan Lywodraeth Cymru ar stâd Llywodraeth Cymru. Nid wyf i’n credu bod hyn yn dderbyniol ac mi hoffwn i ddatganiad i egluro beth yn union ydy safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hyn.