Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Ebrill 2018.
Ie, ar yr ail un—yn sicr, rydym ni'n disgwyl cael datganiad cyn diwedd tymor yr haf, cyn inni ddechrau toriad yr haf, ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru.
Rwy'n deall yn llwyr eich pwynt o ran y croen, a doeddwn i ddim yn gwybod bod yna grŵp trawsbleidiol, felly mae'n beth da cael fy atgoffa o hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cytuno i ysgrifennu yn ôl at Darren Millar ar ôl iddo gael y manylion.