Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 17 Ebrill 2018.
Roedd y cynnig gofal plant yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru 'Gyda'n gilydd dros Gymru', ac rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r elfen gofal plant wedi ei bwriadu ar gyfer rhieni sy'n gweithio, sy'n golygu bod angen inni sefydlu ffordd y gall rhieni wneud cais am y cynnig a chael gwybod a ydynt yn gymwys ai peidio, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y broses hon yn gyflym ac yn hawdd.
Ym mis Medi, fe wnaethom ni ddechrau darparu ein cynnig gofal plant mewn saith ardal awdurdod lleol cychwynnol. Mae'r cyfnod arbrofol hwn yn hynod werthfawr. Rydym yn dysgu oddi wrth y ddarpariaeth ar lawr gwlad. Mae'n ein helpu i fireinio'r cynnig cyn y caiff ei gyflwyno'n ehangach. Mae gweithredu cynnar wedi tynnu sylw at rai o'r materion a'r heriau posib sy'n ymwneud â gweinyddu'r cynnig yn fwy hirdymor. Felly, ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau cymhwysedd unigol a phersonol i raddau helaeth. Rydym ni'n gwybod eu bod yn gweld hyn yn feichus, ac mae'n golygu llawer o adnoddau, ond hoffwn ddiolch iddynt am eu hymroddiad ac am eu hadborth hyd yma.
Ond wrth inni gamu i'r dyfodol, nid yw'n gwneud synnwyr i barhau gyda dull mor feichus, ac nid yw'n gwneud synnwyr bod yn rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth copi caled o'u statws cyflogaeth ac enillion misol ac ati i'w hawdurdod lleol. Felly, wrth inni symud tuag at gyflwyno'n llawn y cynnig gofal plant yn 2020, rydym ni eisiau sefydlu un dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer prosesu ceisiadau ac ar gyfer gwirio cymhwysedd. Bydd y Bil hwn yn ein galluogi i wneud hynny'n union.
Mae'r Bil yn rhoi grym i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid gofal plant i rieni cymwys sy'n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed ac i wneud rheoliadau ynghylch y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cronfa o'r fath. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau cymhwysedd. Mae'n rhoi grym i Weinidogion Cymru ei gwneud hi'n ofynnol i rieni ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'w cais, ac i ganiatáu i rai adrannau o Lywodraeth y DU ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i wneud y penderfyniad ynghylch cymhwysedd rhywun. Mae hon yn wybodaeth sensitif, ac mae'n briodol fod y Bil hefyd yn darparu ar gyfer ei chyfrif hi'n drosedd datgelu gwybodaeth o'r fath yn anghyfreithlon.
Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n bosib hefyd cyflwyno cosbau ariannol mewn amgylchiadau penodol. Felly, er enghraifft, os yw person yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol i gefnogi eu cais am gyllid. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu gofyn am adolygu unrhyw benderfyniadau o ran cosbau neu gymhwysedd ac, yn y pen draw, gallant apelio yn erbyn penderfyniadau i'r tribiwnlys haen gyntaf.
Rydym ni wedi ymchwilio i ffyrdd eraill o sefydlu'r broses hon, ac mae'r rhain wedi'u nodi yn y dogfennau sy'n cefnogi'r Bil, a gyhoeddwyd ddoe. Y dewis a ffefrir gennym ni yw cael y pŵer i wneud trefniadau ynghylch sut y dylid gweinyddu'r arian ar gyfer y cynnig, a dyna mae'r Bil yn ei wneud.
Y bwriad ar hyn o bryd yw trefnu i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi weithredu'r system ar ran Gweinidogion Cymru, gan integreiddio gyda'r system sydd eisoes ar waith ar gyfer y cynnig sy'n berthnasol yn Lloegr. Credaf mai dyma'r dewis gorau. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn cytuno, o gofio'r cyfyngiadau presennol ar y gyllideb, a'r cyfnod parhaus hwn o gyni a orfodir gan Lywodraeth y DU, nid yw hi'n gwneud synnwyr i ailddyfeisio atebion newydd lle mae rhai eisoes yn bodoli.
Bydd y Bil hwn yn sefydlu un ffordd o weithredu ledled Cymru. Ni fydd unrhyw loteri cod post wrth wneud cais am ofal plant yng Nghymru. Ymdrinnir â chais pawb yn yr un modd, a bydd yr un meini prawf a rheolau yn berthnasol. Rydym ni hefyd yn credu bod y dull hwn yn llai o risg o safbwynt twyll a diogelwch data.
Mae'r Bil yn gofyn am gydsyniad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion eraill priodol Llywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS, am roi ei chydsyniad i'r darpariaethau perthnasol yn y Bil. Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'i swyddfa am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf wrth ddatblygu'r Bil hwn ac wrth ofyn am gydsyniad Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.
Mae'r pwerau gwneud rheoliadau, y mae'r Bil yn eu rhoi i Weinidogion Cymru, yn caniatáu i'r manylion gweithredol gael eu rhagnodi mewn is-ddeddfwriaeth. Bydd y rheoliadau yn manylu ynghylch pwy sy'n gymwys i gael arian o dan y cynllun, a sut y gallant fynd ati i wneud cais am y cyllid. Bydd y weithdrefn gadarnhaol yn berthnasol i bob is-ddeddfwriaeth, heblaw am y Gorchymyn Cychwyn.
Felly, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i sylw Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda'r Cynulliad, a Phwyllgorau'r Cynulliad, dros y misoedd nesaf, gan fy mod yn credu bod y Bil hwn yn garreg filltir bwysig o ran cyflawni un o ymrwymiadau allweddol ein maniffesto.