Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae cyllid ychwanegol ar gyfer undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol wedi'i gynnwys yn y gyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer 2018-19. Pan fydd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn cwblhau ei daith drwy Senedd y DU, rydym yn rhagweld y bydd cyfrifoldeb a chyllid cyngor ar ddyledion yn cael eu trosglwyddo i Gymru.