Mercher, 18 Ebrill 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf, David Melding.
1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018? OAQ51976
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52006
4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am beth fydd yn cymryd lle arian strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru yn dilyn Brexit? OAQ51987
5. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd arian a godir gan y ddwy dreth ddatganoledig newydd yn cyfrannu tuag at fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ52000
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn trethi cyngor ar drigolion Gorllewin De Cymru? OAQ51993
7. Beth yw'r goblygiadau posibl ar gyfer penderfyniadau ariannu Llywodraeth Cymru o'r gostyngiad yng nghyllidebau'r heddlu gan Lywodraeth y DU? OAQ51974
Y cwestiynau nesaf i arweinydd y tŷ. Y cwestiwn cyntaf—Simon Thomas.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd derbyniad ffôn symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51977
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru? OAQ51970
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo? OAQ51978
4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran gweithredu ei pholisi ar geiswyr lloches a ffoaduriaid? OAQ52009
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cynrychiolaeth menywod mewn diwydiant? OAQ52007
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd rhyngrwyd symudol yn y Rhondda? OAQ52008
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rydw i’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Pwynt o drefn—Simon Thomas.
Y cynnig nesaf, felly, yw'r cynnig ar gyfer dadl frys, ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.69, rwyf wedi derbyn cais gan Leanne Wood i wneud cynnig am ddadl frys, ac rydw i'n galw ar Leanne Wood...
Yr eitem nesaf o fusnes, felly, yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, a'r cwestiwn cyntaf—Julie Morgan.
1. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran dileu eitemau plastig untro o ystâd y Cynulliad? OAQ51992
2. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y ffyrdd y mae Cynulliad i cyfathrebu â'r cyhoedd yng Nghymru? OAQ51973
3. Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? OAQ51979
4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar ystâd y Cynulliad? OAQ52003
Eitem 5 ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol. Mae gennym gwestiwn amserol gan Neil McEvoy.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 159
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad. Mick Antoniw.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' A galwaf ar...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Julie James.
Symudwn yn awr at y ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU ar Syria, a galwaf ar Leanne Wood i agor y ddadl frys. Leanne Wood.
Ac felly dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf ar ddadl y...
Mae un eitem o fusnes eisoes eto i'w trafod, sef y ddadl fer yn enw Angela Burns ar Sepsis—Y cameleon'. Ac rydw i'n galw ar Angela Burns i gyflwyno'r ddadl. Angela Burns.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyrannu arian i'r portffolio addysg?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch menywod yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia