Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 18 Ebrill 2018.
Un peth sy'n debygol o achosi i fwy o bobl fynd i ddyled ydy'r cyfnod y bydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl ar gyfer eu taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Bydd derbyn taliadau bob mis ar ôl y taliad cyntaf yn creu problemau mawr, problemau dyled i lawer. Methu deall ydw i pam mae eich Llywodraeth chi mor gyndyn i gymryd rheolaeth o elfennau o weinyddu'r system budd-daliadau a'r fframwaith gyllidol a fyddai'n dilyn hynny. Byddai modd wedyn i Gymru symud i system o wneud taliadau credyd cynhwysol bob pythefnos, gan liniaru rhai o'r problemau dyled y mae awdurdodau lleol Cymru yn mynd i'w hwynebu yn sgil credyd cynhwysol.