Trethi Datganoledig Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:38, 18 Ebrill 2018

Diolch am y diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n diolch i Awdurdod Cyllid Cymru am ei waith ac am beth sydd yn ymddangos, felly, yn gychwyn llwyddiannus, fel mae e'n ei ddweud, ar gyfnod newydd yn hanes cyfansoddiadol Cymru. Byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod y pethau yma yn broses yn hytrach na digwyddiad, ac, fel rhan o'r broses, rydych chi wedi gosod allan hefyd yn y rhaglen waith drethiannol syniadau ar gyfer trethi newydd, neu ddatblygiadau trethi yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar lefi plastig o bosibl, a gweithio fan hyn yng Nghymru ar dreth ar dir gwag. A fedrwch chi ddiweddaru'r Siambr ynglŷn â'r broses yna a'r rhaglen waith yna, ac ym mha ffordd rydych chi wedi llwyddo i drafod, ai peidio, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r trethi newydd yma hefyd.