Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr. Mae'n ymddangos o'r papur hwnnw mai prif ddadl y Llywodraeth ydy bod angen codi'r gwaelodlin ar gyfer y cyllid mae Cymru yn ei gael o San Steffan er mwyn unioni'r golled o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r Undeb Ewropeaidd. Ond gyda phob parch, nid ydw i'n eich clywed chi yn gweiddi yn uchel iawn ynglŷn â hyn ar hyn o bryd. Mae Cymru yn wynebu colli arian sylweddol iawn—£2 biliwn—efo cymunedau tlawd a bregus y gorllewin a'r cymoedd yn cael eu taro waethaf, er mai fanna mae'r angen mwyaf. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd i ni heddiw y byddwch chi yn cynnal y trafodaethau penodol yma sydd eu hangen efo Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau'r cyllid ar ôl Brexit? Buaswn i hefyd yn hoffi gwybod pa sicrwydd sydd yna y bydd Llywodraeth Cymru, o gael yr arian, yn dosbarthu'r cyllid hwnnw ar sail angen, fel na fydd cymunedau yn y gorllewin a'r cymoedd yn colli allan.