Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i'r Aelod. Os caf wneud ychydig o bwyntiau ar hynny, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi bodoli bellach ers rhwng dwy a thair wythnos, ac roedd y dyddiau cynnar bob amser yn mynd i gynnwys rhywfaint o bryder y byddai'r broses o newid o'r system bresennol i'r un newydd yn mynd rhagddi'n rhwydd. Credaf y gallaf adrodd bod yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Gwnaed y cofrestriadau cyntaf ar gyfer trethi newydd yng Nghymru erbyn 3 Ebrill. Mae'r adborth gan ddefnyddwyr hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae'r buddsoddiad mewn systemau digidol, a oedd yn un o bwyntiau allweddol y Pwyllgor Cyllid, a fu'n ein hatgoffa drwy gydol y broses o ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru y dylem sicrhau, gyda'r cyfle i greu system o'r newydd, ei bod yn gwbl ddigidol. Mae ochr ddigidol gwaith Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, o ran y ffordd y mae'n rhyngwynebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac o ran y ffordd y mae'n gallu defnyddio data o fewn yr awdurdod cyllid hefyd.