Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y ddadl sydd ar y papur trefn y prynhawn yma yn enw Paul Davies. Ac yn benodol, mae'n werth myfyrio'n fyr iawn ar ddigwyddiadau ddoe—ein bod wedi wynebu'r posibilrwydd na fyddai'r ddadl hon yn digwydd mewn gwirionedd.
Yn benodol, os caf dynnu sylw'r Cynulliad at y llythyr a anfonwyd at y Llywydd, yn enwedig pwynt tri a nododd fod y Llywodraeth yn credu nad oedd y Swyddfa Gyflwyno a'r Llywydd yn gweithredu'n anghyfreithlon yn derbyn y cynnig hwn. Dyna oedd yn y llythyr a gyflwynwyd. Fel rwy'n deall, cafodd ei ddatgelu heb ganiatâd i'r wasg wedyn, sydd braidd yn eironig a dweud y lleiaf, ein bod yn cael ymchwiliad i ddatgelu heb ganiatâd a dyma lythyr wedi'i ddatgelu heb ganiatâd, y credaf iddo ddod o'r Llywodraeth, fel rwy'n deall, i'r cyfryngau. Felly, tybed a gawn ni ymchwiliad Ysgrifennydd Parhaol i'r llythyr penodol hwn a ddatgelwyd heb ganiatâd. Ond mae'n werth myfyrio ar y math o iaith a welwch ar y dudalen gyntaf—nid 'o'r farn' ei fod yn anghyfreithlon; mae'n dweud wrth y Llywydd ei 'fod yn' anghyfreithlon. Mae hynny, yn bendant, yn amgylchedd bygythiol iawn i fynd i geisio'i greu ynghylch dadl yma yn y Cynulliad.
Hoffwn ganolbwyntio ar dri maes, os caf. Dros y tri mis diwethaf, y dadleuon amrywiol a gyflwynodd y Llywodraeth i geisio atal yr adroddiad hwn rhag cael ei gyhoeddi wedi'i olygu. Daeth y gyntaf ym mis Ionawr gan y Prif Weinidog, pan holais ef mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch preifatrwydd a chyfrinachedd tystion a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw—ac rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid glynu wrth hynny, a dyna pam ein bod, yn y cynnig heddiw, wedi dweud y dylai'r adroddiad fod ar gael ar ffurf wedi'i golygu, i wneud yn siŵr fod y cyfrinachedd hwnnw'n cael ei sicrhau ac uwchlaw popeth, sicrwydd a diogelwch tystion sy'n teimlo y gallent gael eu bygwth pe bai eu henwau'n cael eu rhoi, er fy mod braidd yn amheus o ble y gallai'r bygythiadau ddod pe bai'r enwau hynny'n dod yn gyhoeddus. Ac rwy'n gresynu at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi dweud, yn ei ddewis ef o iaith yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ar y pryd, pan oedd yn ymateb i mi,
'Yr hyn y mae e'n gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ei wneud—oherwydd ei phenderfyniad hi yw hwn—yw datgelu pwy yw'r bobl hynny, i'r dystiolaeth gael ei rhoi ar gael a'u henwau. Byddai cam o'r fath, mae'n rhaid i mi ddweud, yn waradwyddus ac yn anonest, a byddai'n dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.'
Rwy'n gwrthod hynny. Rwy'n gwrthod hynny'n llwyr, a chyfeiriaf y Cynulliad at adroddiad ymchwiliad Hamilton a ryddhawyd, yn arbennig cymal 22 yn adroddiad ymchwiliad Hamilton ddoe, a ddangosai'n glir sut yr aeth Hamilton ati i ddiogelu cyfrinachedd tystion yn yr adroddiad hwnnw. Felly, yn amlwg mae hynny'n ateb y pwynt y gallwch ddarparu adroddiad a diogelu cyfrinachedd tyst lle y darparwyd enw'r tyst.