Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch i bawb a gyfrannodd. Os caf ganolbwyntio'n bennaf, yn yr amser sydd gennyf, ar ymateb i ateb y Cwnsler Cyffredinol. Credaf fod rhan gyntaf y ddadl yn ceisio gosod y Prif Weinidog uwchben y gyfraith, os cymerwch y dehongliad a roddodd inni nad yw, mewn gwirionedd, yn atebol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru am y swyddogaethau y mae'n eu harfer, er bod Gweinidogion, a bod yn deg, yn atebol o dan y gyfraith honno. Unbennaeth yw hynny, ac fel y dywedais wrthych, yr unig enghraifft y gallasom ddod o hyd iddi yn unrhyw le yw'r Aifft. Dyna'r unig enghraifft y gallem ei chanfod.
Darllenais—ac ni wnaethoch ei herio, Gwnsler Cyffredinol—darllenais y nodyn cyfreithiol rydym yn seilio ein dadl arno, ac ni wnaethoch ei herio. Rwy'n fwy na bodlon i chi fy herio ar yr hyn a gyflwynais gerbron y Cynulliad heddiw yn y nodyn cyfreithiol. Na? Iawn.
Fe ddywedoch chi wedyn fod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at y Llywydd ddoe i geisio cael consensws. Fe ddarllenaf eto yr hyn yr agorais fy sylwadau ag ef y prynhawn yma, sef pwynt 3 yn y llythyr:
Yn gyntaf, mae'r Swyddfa Gyflwyno, ar ran y Llywydd, wedi nid 'gallai fod wedi'— gweithredu'n anghyfreithlon drwy dderbyn y cynnig.
4. Yn ail, mae'r Llywydd wedi— nid 'gallai fod wedi'— gweithredu'n… anghyfreithlon, drwy beidio â thynnu'r cynnig yn ôl.
Roeddech yn dweud wrth y Llywydd beth y dylai ei wneud ddoe a thrwy gysylltiad, rydych yn dweud wrth y Cynulliad beth y dylai ei wneud. Carwn awgrymu na all unrhyw ddemocratiaeth weithredu o dan y lefel honno o bwysau, a bydd hi'n ddiwrnod tywyll iawn pe bai'r Aelodau ar feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynais heddiw, yn dilyn y chwip ac yn gwrando ar eich dadleuon, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn rydych wedi ei awgrymu yw anwybyddu'r gyfraith a sathru ar yr hyn sy'n ein llywodraethu, sef democratiaeth.
Ni chlywais un wrthddadl gennych heddiw, Gwnsler Cyffredinol, i herio unrhyw bwynt a gyflwynais gerbron y Cynulliad hwn. Dim un. Euthum yn systematig drwy'r tair dadl a ddefnyddiodd y Llywodraeth dros y tri mis diwethaf ynglŷn â pham na ddylai'r adroddiad hwn weld golau dydd: (1) diogelu cyfrinachedd unigolion sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad; (2) gallai ei ryddhau beryglu ymchwiliadau pellach; (3) arfer y gyfraith a darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru. Nid ydych wedi ceisio tanseilio unrhyw un o'r dadleuon hynny. Galwaf felly ar feinciau cefn y llywodraeth i ymateb i'r cynnig ger ein bron heddiw, oherwydd, yn y pen draw, os na wnewch hynny, yna fel y dywedais, gallai chwip y Llywodraeth ennill, ond yn foesol fe fyddwch yn gwneud cam mawr.