9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:45, 18 Ebrill 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Rydw i'n falch iawn o fedru cynnig gwelliant 2 yn enw Plaid Cymru.

Mi gychwynnaf i drwy gyfeirio at adroddiad gan y BBC yn ôl ym mis Rhagfyr a oedd yn dangos bod cyllidebau ysgolion wedi disgyn tua £370 y pen am bob disgybl mewn termau real dros gyfnod o chwe blynedd. Nawr, nid oes rhyfedd, felly, fod rhai o'r undebau athrawon yn rhybuddio, fel gwnaeth yr NEU yn ddiweddar, fod yna crisis ariannu cudd yn ein hysgolion ni, er efallai y byddai rhai'n dadlau nad yw e mor gudd â hynny erbyn hyn. Mae Estyn hefyd, yn ei hadroddiad blynyddol cyfredol diweddaraf, a gyhoeddwyd rhyw fis yn ôl, yn pwyntio at effaith uniongyrchol y toriadau yna, drwy amlygu bod yna lai o athrawon cymwysedig yn ymwneud â'r cyfnod sylfaen yn ysgolion Cymru erbyn hyn. Ond rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, mai beth y mae toriadau i gyllidebau ysgolion yn golygu yw diswyddo athrawon, ac wedyn, fel rŷm ni'n ei ffeindio mewn peth o'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel pwyllgor, mae yna orfod defnyddio potiau eraill, fel y grant datblygu disgyblion ac yn y blaen, i drio cau ychydig ar y bwlch yna.

Ond yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, oherwydd y toriadau yma, yw bod yna golli capasiti yn digwydd yn ein hysgolion ni—colli athrawon a cholli cymorthyddion dosbarth, sy'n gorfod cael eu diswyddo oherwydd y wasgfa ariannol. Wedyn, mae hynny, wrth gwrs, yn naturiol yn gadael mwy o bwysau ar y rheini sydd yn weddill. Nid yw hi felly ddim yn syndod bod yr undebau yn dweud wrthym ni hefyd fod yna grisis llwyth gwaith ymhlith athrawon yng Nghymru, ac rŷm ni eisoes wedi clywed cyfeiriad at rai ffigurau. Sut allwch chi anghytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol pan fo'r Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydyn nhw'n gallu rheoli llwyth gwaith o fewn eu horiau gwaith presennol, neu'r oriau gwaith sydd wedi'u cytuno? Fel y crybwyllwyd hefyd, ar gyfartaledd mae athrawon llawn-amser yng Nghymru yn gweithio 50 awr yr wythnos, ac athrawon rhan-amser yn gweithio 35 awr. Felly, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni? Pa syndod, felly—fel rŷm ni'n cyfeirio ato fe yn ein gwelliant ni—fod yr 21,000 o ddyddiau dysgu a gollwyd drwy absenoldebau yn sgil stres yn 2009 wedi mwy na dyblu i 52,000 yn 2015, gyda hefyd, wrth gwrs, niferoedd cynyddol o athrawon yn gadael y proffesiwn cyn amser? Gyda'r cyfrifoldeb, wrth gwrs, am dâl ac amodau athrawon yn cael ei ddatganoli i Gymru yn nes ymlaen eleni, mae'r amser wedi dod i edrych eto ar faint o amser sydd gan athrawon i wneud eu gwaith—ailedrych ar y cydbwysedd yna rhwng amser dysgu, amser paratoi ac amser hyfforddi a datblygu proffesiynol. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cychwyn ar y broses o edrych ar rai o'r meysydd yma, a byddwn i'n pwyso'n drwm arni i ddefnyddio'r cyfle i fynd i'r afael â nifer o'r ffactorau yma.

Felly, pa ryfedd, o dan yr amgylchiadau presennol yma, ei bod hi'n anodd denu pobl i ddod i ddysgu, pan eu bod nhw'n gweld sefyllfa'r proffesiwn fel y mae hi. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod y targedau denu myfyrwyr i wneud ymarfer dysgu yn cael eu methu'n sylweddol. Dwy ran o dair o'r athrawon uwchradd sydd angen inni eu hyfforddi sydd yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, felly mae hynny'n golygu y bydd yna broblemau dybryd ymhellach i lawr y lein, o safbwynt digonolrwydd y proffesiwn dysgu. Dyna pam y byddwn ni'n cefnogi galwad canolog y cynnig yma am gynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Mathemateg, cemeg, ffiseg, bioleg, ieithoedd modern, technoleg gwybodaeth, technoleg dylunio, cerddoriaeth—oll o dan eu targed recriwtio ar gyfer ymarfer dysgu. Gyda nifer yr athrawon Cymraeg newydd ar ei isaf ers degawd, gyda llaw, pa obaith, fel y clywsom ni, sydd yna i ni gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg os nad oes gennym ni'r athrawon i'w dysgu nhw?

Mae'n werth, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, cydnabod y ddibyniaeth gynyddol sydd yn ein hysgolion ni ar gymorthyddion dysgu, ac mae yna gymaint ohonyn nhw, fel y clywsom ni, bron iawn yn awr ag sydd yna o athrawon cofrestredig erbyn hyn. Maen nhw'n rhan allweddol o'r gyfundrefn addysg, ond yn gweithio'n aml, wrth gwrs, am gyflogau pitw a ddim bob tro'n cael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu. Ond rŷm ni yn gwybod bod 10 y cant ohonyn nhw—rhyw 3,000 o gymorthyddion dysgu cofrestredig yng Nghymru—yn raddedigion, ac mae angen, fel yr ymrwymon ni, fel plaid, rai wythnosau yn ôl yn ein cynhadledd flynyddol, i edrych ar y cyfleoedd sydd yna i greu cyfleoedd i'w hyfforddi nhw. Maen nhw eisoes wedi dewis yr ystafell ddosbarth fel eu gweithle, felly byddai rhywun yn tybio bod yna gynsail cryf yn fanna i gyfrannu tuag at gryfhau y gweithlu a sicrhau digonolrwydd y gweithlu i'r blynyddoedd i ddod. Ond, wrth gwrs, ar ben ei hunan nid yw hynny'n ddigon, ac mae'n rhaid taclo'r sefyllfa ariannu a llwyth gwaith neu, wrth gwrs, yn anffodus, fyddwn ni ddim nes i'r lan.