Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. A gaf fi wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw Paul Davies mewn perthynas â'r argyfwng cynyddol sydd gennym yma yng Nghymru o ran recriwtio athrawon? Os yw uchelgais Llywodraeth Cymru i bob dysgwr gyrraedd ei botensial llawn yn mynd i gael ei wireddu byth, rhaid i ni gael gweithlu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn barod i gyflawni'r nod hwnnw. Ond gwyddom fod arwyddion o argyfwng cynyddol yn ein hysgolion, ac ni fu digon o weithredu hyd yma i fynd i'r afael ag ef.
Mae gan Gymru y nifer isaf o athrawon a fu ganddi erioed ers y flwyddyn 2000. Mae nifer yr athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru drwy addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon wedi gostwng o bron 2,000 yn 2003 i 1,060 ym mis Awst 2017. Nawr, yn dilyn adolygiad yn 2006, aeth Llywodraeth Cymru ati, yn gibddall braidd, i dorri niferoedd myfyrwyr hyfforddiant i athrawon, ac yn ychwanegol at y toriadau hyn, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon wedi methu cyrraedd targedau recriwtio Llywodraeth Cymru ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae tua un o bob tair swydd uwchradd ôl-raddedig a thua 8 y cant o'r swyddi cynradd heb eu llenwi.
Gwyddom fod ffactorau penodol sy'n effeithio ar nifer yr ymgeiswyr newydd, gan gynnwys gofynion mynediad at gymwysterau, gwell cymhellion i hyfforddi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, anawsterau i athrawon newydd allu sicrhau swyddi parhaol ar ôl cymhwyso, pryderon ynghylch ansawdd addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ac wrth gwrs, pryderon ynghylch llwyth gwaith, gydag 88 y cant o'r athrawon a ymatebodd i arolwg gweithlu cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu baich gwaith, ac ar gyfartaledd, athrawon yn gweithio dros 50 awr yr wythnos. Nawr, o ganlyniad i hyn, bu newidiadau yn y cymysgedd staffio yn ein hysgolion. Mae'r gymhareb athrawon cofrestredig i weithwyr cymorth dysgu bron yn 1:1 bellach. Mae gofyn i'r holl athrawon ysgol newydd gwblhau cyfnod sefydlu statudol cyn cael eu cofrestru'n llawn gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ac ers y gofyniad hwn, o safbwynt ansawdd, mae llai nag 1 y cant o'r 16,000 o athrawon newydd wedi methu cyrraedd y safonau hynny. Rwy'n tybio bod hynny'n codi cwestiynau ym meddyliau pawb ynglŷn ag a ydynt yn ddigon trylwyr.
Ac wrth gwrs mae'n ymwneud â mwy na staff addysgu'n unig. Mae penaethiaid hefyd dan bwysau. Yn ôl Cyngor y Gweithlu Addysg, o 1 Mawrth roedd ychydig o dan 1,500 o benaethiaid cofrestredig, sy'n ostyngiad o bron i chwarter ers 2003. Nawr, mae rhywfaint ohono wrth gwrs yn deillio o ganlyniad i gau ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru a'i rhagflaenwyr record dda o gau ysgolion—ceir dros 160 yn llai, yn ôl Estyn, rhwng 2011 a 2017. Ond mae'n bryderus nodi hefyd fod nifer y ceisiadau am swyddi penaethiaid yng Nghymru wedi gostwng i lai na chwech ar gyfartaledd. Mae hyn o'i gymharu â dros 20 ar gyfartaledd yn ôl yn 2012, ac mae llawer o ysgolion yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio penaethiaid. Unwaith eto, gwyddom fod yna bryderon ynghylch llwyth gwaith, ceir pryder ynghylch diffyg cyllid yng Nghymru, pryder am gyflymder y newid yng Nghymru, yn y maes addysg yng Nghymru, a'r baich sy'n gysylltiedig â thasgau rheoli a gweinyddu pan fo'r penaethiaid hyn eisiau cymorth. Ac wrth gwrs maent yn nodi pryderon am yr haenau lluosog o atebolrwydd sydd gennym yma yng Nghymru—awdurdodau addysg lleol, y consortia, Llywodraeth Cymru, y corff llywodraethu, disgwyliadau rhieni. Mae hyn i gyd yn ychwanegu pwysau ar benaethiaid ac yn arwain at wneud iddynt beidio â bod eisiau ymgeisio am swyddi newydd.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym bwysau mawr o ran recriwtio athrawon addysg cyfrwng Cymraeg. Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos yn gyson fod nifer gyfartalog y ceisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg wedi bod yn is. Yn 2015 roedd y nifer gyfartalog o geisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg o dan bump o'i gymharu â thua 10 ar gyfer pob swydd yn hanesyddol, a gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer swyddi uwchradd yn ogystal. Chwarter yr holl athrawon a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym i fod i gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni, neu helpu i gyflawni'r nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad oes digon o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y cymysgedd yn iawn.
Hefyd mae gennym brinder mawr yn ein pynciau uwchradd, yn enwedig mewn rhai pynciau fel Saesneg, mathemateg, addysg grefyddol a Chymraeg, yn ogystal â'r pynciau STEM. Mae hynny'n arwain at nifer o ddosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc, ac o ganlyniad i hynny, mae'r safonau'n dechrau llithro. Nid oes ond raid ichi edrych ar y canlyniadau PISA i weld ein bod yn llithro ymhellach ac ymhellach i lawr y raddfa. Felly, rhaid inni roi trefn ar y llanastr hwn, a dyna pam y gwnaethom yr awgrym fod angen inni gael cynllun gweithlu addysg cenedlaethol sy'n gynhwysfawr, sy'n edrych ar recriwtio, sy'n edrych ar gadw athrawon ac sy'n creu ac yn sefydlu llwybrau newydd i addysgu ar gyfer categorïau sydd ar hyn o bryd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Felly, am ryw reswm rhyfedd ni ystyrir bod darlithwyr addysg bellach, sydd wedi meithrin enw da am ddarparu canlyniadau TGAU a safon uwch rhagorol mewn addysg bellach, yn gymwys i addysgu yn ein hysgolion. Pam hynny? Mae'n gwbl wallgof.
Yn ogystal, mae gennym athrawon a hyfforddwyd dramor yma yng Nghymru a gellid eu hychwanegu hwy at rengoedd athrawon hefyd. Mewn rhannau eraill o'r DU cânt eu hystyried yn addas i allu addysgu, ond yng Nghymru, am ryw reswm, rydym wedi codi rhwystrau i'w hatal rhag addysgu yn ein hysgolion. Gwn am bennaeth o ysgol yn Awstralia, ysgol gyhoeddus yn Awstralia, na châi ei ystyried yn addas i allu addysgu yng Nghymru ac mae'n golled i'r gweithlu addysg yma. Nid yw'n dderbyniol. Wedyn wrth gwrs mae gennym gyfoeth o dalent yn ein hysgolion a'n colegau annibynnol a ddylai gael eu hystyried yn addas i allu addysgu yn ein hysgolion heb rwystrau diangen neu raglenni sefydlu sy'n cael eu gosod yn eu ffordd.
Gallwn barhau, Lywydd, ond mae amser yn brin. Hyderaf y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig y prynhawn yma fel y gallwn gael y cynllun cynhwysfawr hwn ar waith a chefnogi'r diwygiadau addysg y mae pawb ohonom am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru.