9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:02, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf mewn gwirionedd mai dadl hanner awr yn unig yw hon, sy'n golygu mai cwta bedair munud sydd gennyf i grynhoi, oherwydd mae yna rai pethau rwy'n cytuno'n angerddol â'r hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud yn eu cylch y prynhawn yma, ac mae yna rai pethau rwy'n anghytuno'n chwyrn â hwy y prynhawn yma.

Gareth, a gaf fi fod yn gwbl glir, mae yna werth cynhenid mewn plant yn gadael ein hysgolion ag arholiadau a chymwysterau sy'n caniatáu iddynt symud ymlaen at rywbeth arall? Gall ein system addysg ymwneud â mwy na hynny, ond nid yw dweud nad ydym yn gwneud rhywbeth defnyddiol i'n plant drwy eu cael i basio profion, arholiadau ac i ennill cymwysterau yn un ohonynt. A rhaid i mi ddweud bod yn rhaid inni, Mr Reckless, weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol y caiff ei ddarparu ynddo. Ac nid wyf yn meddwl y byddai llawer o rieni yng Nghymru eisiau gweld yr effeithiau ar les plant mewn llawer o'r gwledydd, gan gynnwys Singapôr, y sonioch chi amdanynt yn y system addysgol yma. Yn wir, aeth grŵp o rieni i'r dwyrain pell yn ddiweddar i edrych ar ddulliau addysg yno, a dywedodd un rhiant wrthyf, 'Beth bynnag a wnewch i wella'r sefyllfa yng Nghymru, os gwelwch yn dda, peidiwch â gwneud i fy mhlentyn wneud yr hyn a welsom pan ymwelsom â'r gwledydd hynny.' Felly, rhaid inni weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol, ond a yw hynny'n golygu y gallwn wneud yn well? Wrth gwrs ei fod, ac fe wyddoch fy mod yn benderfynol o wneud yn well gan mai dyna yw fy nghenhadaeth i, dyna yw cenhadaeth genedlaethol y Llywodraeth hon, sef darparu system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus yng Nghymru ar gyfer ei phobl ifanc. System addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac rwy'n cydnabod, yn anad dim arall, mai ansawdd yr addysgu sy'n trawsnewid bywydau pobl ifanc, ac felly mae'n hanfodol fod ein diwygiadau'n cynnal cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da yn sail i'n taith ddiwygio genedlaethol.

Mae athrawon yfory yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol, ac rwyf wedi datgan yn glir iawn fy ymrwymiad i ddenu a chadw mwy o raddedigion â chymwysterau da yn y byd addysg gan nad yw ein pobl ifanc—eich plant, fy mhlant i, ein plant i gyd—yn ei haeddu dim llai. Dyna pam y mae angen i bob athro yng Nghymru fod yn gymwysedig, yn wahanol i wledydd eraill fel Lloegr, lle mae'r defnydd o bobl heb gymhwyso yn yr ysgolion yn tyfu'n gyflym. Mae'r gyfradd o swyddi athrawon gwag yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i fod yn gymharol isel, er mai fi fyddai'r gyntaf i gyfaddef y gall fod anawsterau lleol weithiau wrth recriwtio i rai pynciau a rhai cyfnodau penodol.

Nawr, mae gwelliant Plaid Cymru yn datgan bod arolwg diweddar y gweithlu cenedlaethol yn dangos bod 34 y cant o athrawon wedi dweud eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn. Mater o ffaith yw hynny. Eto i gyd, o roi hyn mewn persbectif, o gyfanswm o 30,610 o addysgwyr, dywedodd ychydig dros 1,600 eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn, ac yn achos rhai ohonynt gallai fod o ganlyniad i ymddeol. Ar y llaw arall, rwy'n falch fod 47 y cant o athrawon yn datgan eu bod yn ystyried parhau i ddatblygu a chryfhau eu gwaith, gydag eraill yn awyddus i symud ymlaen i rolau arwain. Buaswn yn cytuno â chi, Mark, fod sicrhau bod gennym ymagwedd genedlaethol gyson tuag at ddysgu proffesiynol a datblygu gyrfa yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod hefyd fod mater llwyth gwaith yn bwysig iawn hefyd, ac rydym parhau i weithio gyda'r undebau ac arbenigwyr mewn perthynas â llwyth gwaith, yn enwedig drwy brism datganoli cyflog ac amodau athrawon.

O ran recriwtio, Ddirprwy Lywydd, ym mis Hydref cyhoeddais gynllun cymhelliant gwell ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, a chynllun cymhelliant newydd yn targedu myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg i fynd i'r afael â rhai o'r cymhlethdodau sy'n ein hwynebu. Mae llawer o'r pwyntiau a godwyd y prynhawn yma eisoes ar y gweill. Mae'r bwrdd cynghori ar recriwtio a chadw athrawon a sefydlwyd gennyf yn adolygu tystiolaeth ryngwladol i ystyried sut y gallwn gynorthwyo pobl i ddod yn rhan o'r proffesiwn—pawb sy'n dymuno dod yn rhan o'r proffesiwn drwy lwybrau amgen. Mae hynny'n golygu pobl sy'n dymuno newid gyrfa. Mae'n golygu athrawon tramor. Yn wir mae'n golygu cynyddu sgiliau pobl sydd eisoes yn y gweithlu addysg ond am gael statws athro cymwysedig. Ond wrth wneud hynny, ni fydd ar draul gostwng safonau. Rwy'n benderfynol o gynnal safon sy'n ofynnol gan bobl sy'n mynd yn rhan o'r proffesiwn. Ni fyddem yn dweud rhai o'r pethau hyn am y proffesiwn meddygol, fyddem ni? Ni fyddem yn ei dderbyn ar gyfer y proffesiwn hwnnw, a pham y byddem yn ei dderbyn yn yr achos hwn?

Ond mae yna ffyrdd y gallwn ganfod ffyrdd newydd i bobl gyrraedd yr ystafelloedd dosbarth os mai dyna yw'r alwedigaeth a ddymunant, oherwydd rwyf am i addysgu yng Nghymru fod yn broffesiwn dewis cyntaf, fel y gallwn ddenu'r goreuon, a bydd ein cynnig addysg gychwynnol athrawon diwygiedig yn sicrhau y bydd mwy o bobl eisiau hyfforddi yng Nghymru a bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn eu gyrfaoedd. Mae'r diwygiadau hyn yn galluogi'r proffesiwn i chwarae rôl ganolog yn cyflawni ac yn arwain newid, yn ogystal â chreu system sefydlog o ansawdd uchel sy'n galluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu. A bydd yn gwneud yn union hynny, Gareth: bydd ein hathrawon yn rhan hanfodol o ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Byddant ar y blaen yn hynny.

Rwyf wedi sefydlu'r academi arweinyddiaeth a fydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, fel bod arweinwyr ac arweinyddiaeth yn cael eu cynorthwyo i wireddu amcanion ein cenhadaeth genedlaethol—cefnogi penaethiaid presennol a meithrin rhai sydd am fynd ymlaen i arwain ysgolion Cymru. Bydd yr academi yn ymgysylltu ag arweinwyr, yn nodi tystiolaeth ryngwladol ac yn creu rhwydwaith ar gyfer cydweithio i helpu i lywio'r proffesiwn a gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc.

Ddirprwy Lywydd, mae amcan cyffredinol ein cenhadaeth genedlaethol yn syml, yn glir ac yn uchelgeisiol. Gan weithio gyda'n holl bartneriaid, byddwn yn codi safonau, byddwn yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel y dywedais, byddwn yn darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn helpu pawb, gan gynnwys pawb sy'n addysgu yn ein hysgolion, i fod y gorau y gallant fod, fel y gallant hwy, a'r plant y maent yn eu haddysgu, gyrraedd eu potensial llawn.