Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd: rwy'n fenyw yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, ac yn un o'r menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI).
Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd Ddeddf Pensiynau newydd, a fyddai wedi codi oedran ymddeol i fenywod i 65—yr un oedran â dynion—erbyn 2020. Byddai hyn wedi rhoi o leiaf 15 mlynedd i fenywod newid eu cynlluniau ymddeol—15 mlynedd yn fwy o gynilion i helpu i ateb y diffyg yn eu cronfeydd pensiwn. Fodd bynnag, newidiodd Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cynlluniau hyn. Cyflymodd Deddf Pensiynau 2011 y newidiadau, a olygodd y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 63 yn 2016 i 65 ym mis Tachwedd eleni, ac mae'n parhau. Roedd y Ddeddf hefyd yn datgan y dylai oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a menywod godi i 66 erbyn 2020. Fel miloedd o fy nghydwladwyr, ni chefais fy hysbysu'n bersonol ynghylch y newidiadau hyn. Ni chefais lythyr; ni chefais unrhyw esboniad. Ni ddywedodd neb wrthyf y byddai fy nghynlluniau ymddeol yn gorfod newid, ond yn wahanol i lawer o fenywod eraill yn y sefyllfa hon, rwy'n ffodus: rwy'n dal mewn gwaith; nid wyf yn wynebu tlodi. Yn anffodus, effeithiodd y newidiadau hyn yn ddrwg ar lawer o fenywod, ac rwyf wedi clywed am o leiaf un fenyw a gyflawnodd hunanladdiad o ganlyniad i'r twll du ariannol roedd hi ynddo. Ni ddylid trin neb fel hyn—neb. Nid oes neb yn anghytuno na ddylai oedran dynion a menywod fod yr un fath. Fodd bynnag, ni ddylid bod wedi cyflwyno'r newidiadau hyn heb ddegawdau o rybudd, blynyddoedd i gynllunio ac amser i wneud trefniadau ariannol ychwanegol.
Fel y mae pethau, cyflwynwyd y newidiadau i bensiynau menywod yn rhy gyflym, ac yn rhy ar hap. Digwyddais glywed am y newidiadau drwy sylw didaro a wnaed wrthyf un diwrnod, ac mae fy sefyllfa ymhell o fod yn unigryw. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd diffyg rhagwelediad a chynllunio gan Lywodraethau olynol y DU. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd polisi cyni'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. A gwneir i fenywod ddioddef oherwydd bod Llafur wedi camdrin arian cyhoeddus a'u methiant i ddiddymu Deddf 1995. Gofynnaf i'r gwleidyddion Llafur sy'n cefnogi mudiad WASPI—roeddech yn Llywodraeth rhwng 1997 a 2010—pam na roesoch gamau ar waith bryd hynny? Yn anffodus, ni allwn gywiro camgymeriadau'r gorffennol, ond gallwn liniaru'r effeithiau y mae'r camgymeriadau hynny yn eu cael ar fenywod a anwyd yn ystod y 1950au.
Mae ein cynnig sydd ger eich bod heddiw yn galw am bensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd, iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r menywod sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd, a iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio. Nid yw hyn yn ormod i'w ofyn, a gobeithio y bydd yr Aelodau yma'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n ymladd dros fenywod WASPI, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweld synnwyr.
Mae yna bethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru heb aros i Lywodraeth y DU gydnabod y boen a'r dioddefaint y mae'r polisïau wedi eu creu. Mae menywod a aned yn ystod y 1950au bellach yn gorfod gweithio am chwe blynedd arall a gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith a sicrhau bod cyflogwyr yn cyflogi gweithwyr sy'n agos at oed ymddeol, gan ymladd dros sicrhau ar yr un pryd fod menywod y 1950au yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Cafodd arian ei ddwyn oddi wrthynt.
Soniwyd wrthyf am enghreifftiau niferus o fenywod yn methu cael gwaith oherwydd eu hoedran. Cysylltodd menyw â mi, a dywedodd, 'Rwy'n 62 oed, nid wyf yn cael pensiwn a oedd wedi'i addo i mi. Rwy'n anghyflogadwy oherwydd fy oedran. Rwy'n dlawd ac yn dibynnu ar ffrindiau a theulu.' Ni ddylai fod fel hyn, ond yn sicr, nid yw'n unigryw.
Rhaid inni annog cyflogwyr i weld manteision cyflogi pobl ym mlynyddoedd olaf eu bywyd gwaith. Bydd y menywod hyn yn cynnig oes o brofiad, cyfoeth o wybodaeth ac etheg gwaith a ffurfiwyd drwy ddegawdau o waith caled. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn menywod WASPI, i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gwaith ystyrlon ar gael ar gyfer y rhai a orfodir i weithio am gyfnod hirach, ond sydd hefyd yn brwydro i oroesi ac eisiau'r hyn sy'n ddyledus iddynt.
Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i fenywod WASPI drwy gefnogi'r cynnig hwn sydd ger eich bron heddiw. Dangoswch eich cefnogaeth i fenywod WASPI drwy ddweud wrth Lywodraeth y DU fod y modd y mae'r menywod hyn yn cael eu trin yn annerbyniol. Ni fyddai newidiadau pensiwn wedi cael llawer o effaith ar fenywod yn eu 30au a'u 40au efallai, ond maent wedi cael effaith ddinistriol ar fenywod yn eu 50au a'u 60au. Yn amlwg, nid yw Llywodraeth y DU yn poeni am effaith y polisïau hyn, fel yr amlygwyd gan eu gwrthodiad pendant i ddiddymu'r newidiadau.
Bellach mae'n fater i bob un ohonom yma heddiw sicrhau bod effaith y newidiadau hyn yn cael eu lliniaru a bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Nid wyf am weld unrhyw fenyw arall yn cael ei gorfodi i ddewis rhwng byw mewn tlodi dybryd neu gyflawni hunanladdiad. Mae'r menywod hyn wedi gweithio'n galed ers degawdau, ni ddylent orfod wynebu tlodi wrth iddynt ymddeol. Dylent gael y pensiwn a addawyd iddynt am ddegawdau o waith caled.
Ni ddylai fod gan unrhyw Lywodraeth hawl i dorri'r addewidion a gorfodi'r menywod hyn i fyw mewn tlodi. Cynlluniodd y menywod hyn eu hymddeoliad yn ôl yr addewidion, a thorwyd yr addewidion hynny. Nid oes gan neb hawl i fynd â'u harian. Mae'n werth nodi, ar ôl 43 mlynedd o waith corfforol caled, na all rhai menywod weithio rhagor, a chânt eu gadael heb eu pensiwn. Felly, rhaid inni weithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu. Rhaid gorfodi Llywodraeth y DU i weithredu. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig a gyflwynais ger eich bron heddiw.