Part of the debate – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 18 Ebrill 2018.
Hoffwn i, i ddechrau, longyfarch WASPI am eu hymgyrch rymus yn dwyn sylw at yr annhegwch rydym ni'n ei drafod heddiw. Yn fy ardal i, mae nifer o ferched wedi dod at Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, a minnau, ac rydym ni wedi bod yn gweithio efo'r merched yna i sefydlu grwpiau WASPI lleol. Erbyn hyn, mae gennym ni grŵp WASPI Arfon a Môn a grŵp WASPI Dwyfor Meirionnydd. Rydym ni'n parhau i gefnogi eu hymdrechion nhw ac yn parhau i dynnu sylw at yr annhegwch sydd wedi cael ei greu gan y newidiadau i'r Ddeddf pensiynau gwladol. Rydw i'n gwybod bod yna grwpiau WASPI eraill hefyd ar draws Cymru, ac rydw i'n eich llongyfarch chi ar eich gwaith.
Mae'r newidiadau yn bryder i filiynau o bobl ar draws y Deyrnas Gyfunol, ac mae yna fwy a mwy yn dod yn ymwybodol o'r effaith. Nid ydy pawb, hyd heddiw, yn ymwybodol o'r effaith pellgyrhaeddol y gall hyn ei gael ar fywydau nifer fawr o fenywod a'u teuluoedd nhw hefyd.
Mae'n bwysig nodi bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o greu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran derbyn y pensiwn gwladol. Nid oes yna reswm pam fod disgwyl i fenyw ymddeol yn gynharach na dyn. Nid ydy hynny yn briodol nac yn berthnasol mewn oes o gydraddoldeb cyfoes. Nid oes gwrthwynebiad i'r egwyddor, felly, ond rwyf yn gwrthwynebu'n gryf y broses sydd wedi cael ei mabwysiadu i yrru'r newid yma ymlaen. Beth sydd ei angen ydy cyfnod trosiannol teg ar gyfer pob menyw sydd wedi cael ei geni yn y 1950au ac sy'n cael ei heffeithio gan y newidiadau yma. Nid ydy'r amserlen fel y mae hi ar hyn o bryd yn rhoi amser i ferched sy'n cael eu heffeithio i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad, ar gyfer y gostyngiad yn y pensiwn, yn wahanol i'r hyn oedden nhw'n cynllunio ar ei gyfer o, a dyna ydy'r neges rydw i'n ei glywed tro ar ôl tro gan y menywod yr wyf i'n gweithio efo nhw yn ein grŵp lleol ni yn Arfon.
A gawn ni oedi am funud hefyd ar sefyllfa merched yn gyffredinol? Fe fydd merched yn Arfon, ac, yn wir, merched yng Nghymru, yn cael eu taro yn arbennig o galed gan y newidiadau yma. Mae pobl yn byw yn hirach yn Lloegr nac ydyn nhw yng Nghymru. Mae incwm y pen yng Nghymru yn is nac ydy o yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, ac, ar ben hynny, mae merched Cymru yn ennill llai ar gyfartaledd na dynion Cymru—bron i £5,000 y flwyddyn yn llai. Pum mil ar hugain o bunnoedd ydy'r cyfartaledd cyflog i ddynion, £20,000 i ferched—anghydraddoldeb mawr yn fanna.
Felly, tra ydym ni'n croesawu trin menywod yn gydradd o ran oed derbyn pensiwn, mae angen trin menywod yn gydradd ym mhob maes, yn y gweithle, o ran cyflogau, ac o ran cyfleon bywyd. Mae'n ddiddorol gweld, onid ydy, fod Llywodraeth San Steffan yn ddigon bodlon gwthio ymlaen yr agenda cydraddoldeb pan fo hynny yn eu siwtio nhw, pan fo'n golygu torri'r gyllideb lles, ond beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â chydraddoldeb yn gyffredinol, ynglŷn â'r diffygion cyffredinol? Beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â datblygu agweddau eraill o gydraddoldeb a dileu anghydraddoldeb? Ac, efo pob parch, os caf i ofyn i UKIP: faint o bwyslais maen nhw'n ei roi ar gydraddoldeb yn gyffredinol i ferched? Mae'n hawdd dod â mater fel hwn gerbron, sydd yn eu siwtio nhw, ond beth am yn gyffredinol?
Rydym ni felly yn cytuno â WASPI. Mae angen cyflwyno creu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran pensiwn, ond gwneud hynny dros amser hirach—rhoi amser i ferched baratoi yn iawn ar gyfer eu dyfodol. Mae'r merched yma yn haeddu cael eu trin yn deg. Gwnaf i gloi efo hyn: mae gen i achos yn fy etholaeth i o ddynes a gafodd ei geni 24 awr yn rhy hwyr, a rŵan, mae'n rhaid iddi weithio dwy flynedd a thri mis yn ychwanegol. Nid dyna oedd ei dymuniad hi, ond dyna mae hi'n gorfod ei wneud. Nid ydy hynny'n deg, ac mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am drefniadau trosiannol, a byddai pensiwn pontio ac iawndal yn mynd yn bell iawn i leddfu'r newid ac i greu sefyllfa lawer iawn mwy derbyniol. Ond cofiwch fod Plaid Cymru hefyd yn benderfynol o sicrhau gwir gydraddoldeb i fenywod Cymru ym mhob maes. Diolch.