Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r sefyllfa y mae menywod WASPI ynddi yn seiliedig ar frad. Drwy gydol eu bywydau gwaith, cawsant addewid y byddent yn cael pensiwn yn gyfnewid am eu trethi a'u hyswiriant gwladol ac y byddent yn ei gael o'r adeg y byddent yn 60 oed ymlaen. Mae menywod wedi adeiladu bywydau o amgylch y disgwyliad y byddai Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair. Mae dweud wrth fenywod sydd eisoes wedi bod yn gweithio mwy na 25 mlynedd yn 55 oed, yn hytrach na bod gofyn iddynt weithio am bum mlynedd arall, y bydd yn rhaid iddynt weithio ddwywaith mor hir â hynny'n ddigon anodd, ond i waethygu pethau, ni chafodd menywod WASPI eu hysbysu mewn digon o amser i allu rhoi trefniadau amgen ar waith. Fel y clywsom eisoes heddiw, ni chafodd rhai wybod o gwbl.
Mae'n ymddangos bod y newidiadau wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU heb fawr o ystyriaeth o'r effaith ar y menywod dan sylw, os o gwbl. Dywedodd comisiwn Turner y dylai'r cyfnod rhybudd fod yn 15 mlynedd; dywedodd Saga y dylai fod yn 10 mlynedd. Ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi eu hanwybyddu hwythau yn ogystal. Nid ydym yn sôn am fenywod sy'n ennill cyflogau mawr. Rydym yn sôn am fenywod sydd wedi dioddef anghydraddoldeb cyflog drwy gydol eu bywydau gwaith yn y lle cyntaf, menywod nad oeddent yn cael eu talu ddigon am eu gwaith yn ôl pob tebyg o ran ei werth i gymdeithas, megis y nyrsys WASPI sydd wedi ymddeol y datblygwyd y GIG ar eu llafur. Rydym hefyd yn sôn am fenywod a oedd yn annhebygol o allu fforddio pensiwn preifat.
Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa ni i gyd mai yn San Steffan y mae'r pwerau sydd eu hangen i unioni'r anghyfiawnder hwn ac nid ym Mae Caerdydd, ac wrth gwrs byddent yn gywir. Fodd bynnag, nid yw gweithgaredd milwrol tramor wedi ei ddatganoli fwy nag yw darpariaeth pensiwn, ac os gall Prif Weinidog Cymru roi gwybod i'r byd ei fod yn cefnogi bomio Syria, gall adael i Lywodraeth y DU wybod yn blwmp ac yn blaen beth yw barn Llywodraeth Cymru am yr anghyfiawnder i fenywod WASPI yng Nghymru. Gall hefyd weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ateb.
Efallai fod Llafur yn teimlo y gallant anwybyddu'r anghydraddoldeb hwn gan na fydd y menywod yr effeithiwyd arnynt yn gwneud cymaint o sŵn â sêr y cyfryngau a'r byd chwaraeon sy'n ceisio cydraddoldeb. Neu efallai nad oes digon ohonynt i wneud gwahaniaeth i gyfrifiadau etholiadol y Blaid Lafur. Eto dyma'r gweithwyr heb lais y mae Llafur yn dweud eu bod yno i'w gwasanaethu, i ymladd drostynt. Ond byddai'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth o gwbl. Mae'r ffaith bod gwelliant Llafur yn nodi'r geiriau 'annog Llywodraeth y DU' yn lle 'gweithio gyda Llywodraeth y DU' yn enghraifft ohonynt yn gwneud dim. Mae'n hawdd annog eraill i weithredu, a thrwy wneud hynny maent yn gwneud y synau iawn ac yn chwifio'r faner iawn. Ond os ydych am helpu menywod WASPI Cymru rhaid i chi fod yn barod i weithredu eich hunain.
Yr unig beth y gall fy mhlaid ei wneud yn y lle hwn ar ran menywod WASPI yw gwneud y cynnig hwn a lobïo. Ond mae gan Lywodraeth Lafur Cymru y dulliau a'r sianeli cyfathrebu i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i weithredu'n deg ar y mater hwn. Pensiwn pontio a/neu iawndal ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran ymddeol yw'r unig ffordd ystyrlon o unioni'r cam, ac rwy'n gobeithio o ddifrif eich bod i gyd yn cytuno â mi. Nid oes amheuaeth mai rhoi iawndal i fuddiolwyr ystadau yr effeithir arnynt—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn—yw'r peth cywir i'w wneud. Fel y dywedais ar y dechrau, mae menywod WASPI wedi'u bradychu yn y modd mwyaf sinigaidd gan eu Llywodraeth.
Yn olaf, rwy'n derbyn na all Llywodraeth Cymru ddeddfu ei hun i unioni'r cam hwn, ond mae menywod WASPI Cymru yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i fynd i weithio ar Lywodraeth y DU ar eu rhan yr un mor galed ag y maent yn gweithio i gyflawni nodau eraill, mwy rhyngwladol. Yn syml, nid yw unrhyw beth sy'n llai na hynny yn ddigon, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.