10. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 6:57, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac mewn modd mor gadarnhaol gan mwyaf? A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y rhai sy'n gysylltiedig â WASPI am y gwaith a wnaethant, ac y maent yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y sefyllfa gwbl anfoddhaol hon?

Mae deddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth y DU wedi golygu bod oddeutu 2.6 miliwn o fenywod ym Mhrydain wedi wynebu oedi o hyd at chwe blynedd yn oedran pensiwn y wladwriaeth. Digwyddodd y newid hwn heb i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gael eu hysbysu'n ddigonol ynghylch y canlyniadau a heb rybudd priodol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu gadael heb ddigon o amser i baratoi'n ddigonol ar gyfer eu dyddiad ymddeol hwyr. Yn wir, ar ôl y ddeddfwriaeth yn 1995, roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i anfon gohebiaeth yn nodi mai 60 oedd yr oed ymddeol i fenywod. Nodai'r ddeddfwriaeth wreiddiol y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 60 i 65 oed erbyn y flwyddyn 2020, ond cafodd ei newid gan Ddeddf bellach yn 2011, yn ei gyflwyno'n gynt yn 2018 a'i godi i 66. Mae'r newidiadau i'r gyfraith a methiant i gyfathrebu canlyniadau'r newidiadau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt wedi arwain at lawer o fenywod ar draws y wlad yn cael eu gadael heb bensiynau digonol ar ôl ymddeol. Mae llawer bellach heb fawr o arian neu'n byw ar incwm pitw.

Gwnaeth Vikki Howells y pwynt fod y menywod hyn o'n cwmpas ym mhobman, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, a nododd y wybodaeth anghywir sydd ar gael i fenywod WASPI. Nododd Nick Ramsay fod hyn i gyd wedi dechrau yn 1995. Cyfeiriodd eto hefyd at y wybodaeth anghywir, ac fel y byddem yn disgwyl, dywedodd fod hyn wedi'i wneud o dan Lywodraethau Toraidd a Llafur. Yn briodol iawn, llongyfarchodd Siân Gwenllian y gwaith a wneir gan grwpiau WASPI ledled Cymru a mynegodd ei chefnogaeth i'r grwpiau hynny. Dywedodd Michelle Brown fod menywod wedi adeiladu eu bywydau o gwmpas ymddeol yn 60 oed, i ganfod yn hwyr iawn, mewn llawer o achosion, fod y pyst gôl wedi cael eu symud gan beri anfantais fawr i fenywod WASPI.

Canolbwyntiodd Dawn Bowden ar y wybodaeth anghywir, neu'r diffyg gwybodaeth. Rhaid imi ddweud—ac mae gennyf barch mawr tuag at Dawn—fod ei beirniadaeth o 'ddiffyg ymwneud' honedig UKIP yn anwybyddu'r ffaith nad oedd y Blaid Lafur yn ymwneud â hyn hyd nes i WASPI ddod i fodolaeth, ac wrth gwrs, cafodd y Blaid Lafur 13 blynedd i ddiddymu Deddf 1995 ac ni wnaeth hynny. Siaradodd Jane Hutt hefyd am grwpiau WASPI a disgrifiodd y rali yng Nghaerdydd a'i hawydd i helpu i barhau i ymladd yr achos. Dywedodd Julie James y byddai llawer o'r menywod WASPI—ac nid oedd neb wedi cyfeirio at hyn, mewn gwirionedd—wedi bod mewn gwaith rhan amser ar gyflogau isel, sy'n gwneud eu sefyllfa o ran pensiynau hwyr hyd yn oed yn fwy trychinebus. Roedd hi'n dda clywed y bydd—a chredaf y gallaf ddefnyddio'r ymadrodd hwn—yn dyblu ei hymdrechion i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, ac roedd hi'n nodi'n eithaf manwl rai o'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu gwneud i wneud bywyd yn haws i fenywod WASPI.

Rydym ni yn UKIP yn galw ar y Siambr hon i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi adnoddau ar waith a/neu newid y ddeddfwriaeth i leddfu dioddefaint y menywod hyn y mae llawer ohonynt wedi gweithio ar hyd eu hoes ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at gyfoeth y wlad. Rwy'n eich annog i gefnogi'r ddadl hon.