Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. 'Gwaith ar ben'—dyna oedd geiriau'r Arlywydd Trump yn dilyn yr ymosodiadau awyr gan yr UDA, Ffrainc a Phrydain ar y cyd ar Syria y penwythnos diwethaf. Lladdwyd 400,000 amcangyfrifedig o Syriaid ers dechrau'r rhyfel yn 2011. Mae dros 5.6 miliwn o Syriaid wedi ffoi o'r wlad yn ôl y Cenhedloedd Unedig, a chafodd 6.1 miliwn o bobl eu dadleoli o fewn y wlad. Mae cyfundrefn Assad yn parhau i fod mewn grym, ac mae uwch-gadfridogion, gan gynnwys y Cyd-bennaeth Staff yn y Pentagon, wedi dweud bod Assad yn dal i allu defnyddio arfau cemegol ar ôl yr ymosodiad. Nid yw hynny'n swnio fel 'gwaith ar ben' mewn unrhyw fodd.
Hoffwn ymdrin â thri mater canolog yng Nghynulliad Cymru a'n rôl yn cefnogi ac yn rheoli canlyniadau ofnadwy rhyfel Syria. Yn gyntaf hoffwn geisio eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â'i safbwynt ynghylch yr ymosodiadau awyr ar y penwythnos. Yn ail, hoffwn drafod cost ariannol a pherthnasol yr ymosodiad, cyn symud ymlaen i drafod sut y gallwn ddyblu ein hymdrechion i gynnig hafan ddiogel i'r rhai sy'n ymdopi â chanlyniadau rhyfel cartref Syria.
Cyn imi symud ymlaen at fy araith go iawn, hoffwn ailadrodd fy siom fod Aelodau o fainc flaen Llafur yn teimlo nad oedd hwn yn fater digon arwyddocaol i gyfiawnhau dadl. Mae methu cefnogi galwadau Plaid Cymru am ddadl ar y mater hwn nid yn unig yn siomedig ond yn rhyfedd, o ystyried galwadau eu cydweithwyr am fwy o graffu seneddol ar y mater yn San Steffan.
Ddoe, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, holais gwestiwn syml i'r Prif Weinidog: a yw'n ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i'r ymyrraeth filwrol yn Syria? Roedd ei ateb yn ochelgar fel arfer. Heb i unrhyw bleidlais gael ei gwneud yn unrhyw un o Seneddau'r DU, fore Sadwrn rhoddodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i phenderfyniad i ymuno yn y bomio a arweiniwyd gan America. Roeddwn am roi cyfle arall, heddiw, i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw. Heb unrhyw gymeradwyaeth seneddol, a yw'r Prif Weinidog yn ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i hymosodiad awyr, gan iddi honni ei fod er budd cenedlaethol Prydain? Ac o wybod yn awr nad yw'r ymosodiad awyr wedi lliniaru gallu cyfundrefn Syria i ddefnyddio arfau cemegol na newid cwrs y gwrthdaro, a yw'n dal i gefnogi'r ymosodiad? Ond nid yw yma ar gyfer y ddadl hon. Rwy'n mawr obeithio y caiff hyn ei ddwyn i'w sylw, a'i fod yn gallu ateb y cwestiynau pwysig hyn maes o law.
Nid yw ymosodiadau symbolaidd yn gwneud llawer i helpu pobl druenus Syria sydd angen ateb i'r hyn sy'n argyfwng gwleidyddol a thrychineb ddynol yn hytrach na rhagor o fomiau.
Mae rhyfel yn weithgarwch drud. Wrth gwrs, i rai, mae'n broffidiol. Mae gweld cyfrannau cwmnïau fel BAE Systems yn codi gyda'r posibilrwydd o ragor o wrthdaro yn dangos y strwythurau corfforaethol ffiaidd sy'n sail i'r sefydliad amddiffyn.
Lansiodd awyrennau Typhoon a Tornado Prydain wyth o daflegrau Storm Shadow. Yn ôl cwestiwn seneddol yn 2011, mae pob un o'r taflegrau hyn yn costio £790,000. Dengys cyfrifiad bras ein bod yn edrych ar gost o fwy na £6.3 miliwn ar gyfer yr un ymosodiad a gyflawnwyd ar y penwythnos. Nid yw hyn yn cynnwys costau'r awyrennau a ddefnyddiwyd i danio pob un o'r bomiau gwerth £0.75 miliwn hyn. Pan fo angen arian i dalu pensiwn teg i'n menywod WASPI, mae'r coffrau'n wag. Pan fo diwygiadau lles crintachlyd a chreulon yn peri i bobl gyflawni hunanladdiad oherwydd anobaith, dywedir wrthym nad oes arian ar ôl. Mae pob un ohonom yma wedi colli asedau a gwasanaethau gwerthfawr yn y cymunedau a gynrychiolwn oherwydd cyni, ond yn achos arfau rhyfel, ymddengys bod gan y wladwriaeth Brydeinig bocedi dwfn iawn. Mae'n warthus fod San Steffan yn gallu honni bod gwario miliynau ar fomio gwledydd tramor o fudd yn genedlaethol tra bo menywod a dynion digartref yn cael clywed nad oes arian ar gael i roi llety iddynt.
Mae gennyf gywilydd dweud bod record Cymru ar ffoaduriaid o Syria yn parhau i fod yn siomedig. Wrth ollwng bomiau ar y genedl hon sydd wedi ei rhwygo gan ryfel, mae'n bosibl iawn fod y wladwriaeth Brydeinig yn creu mwy o ffoaduriaid ar yr un pryd ag y mae'n gwrthod cyflawni ei rhwymedigaethau presennol. Cymerodd Cymru ychydig dros 300 o ffoaduriaid y llynedd, ac rwy'n falch o ddweud mai cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin a roddodd gartref i'r rhan fwyaf—51—pob un ohonynt o Syria. Eto i gyd nid oedd rhai cynghorau—gweinyddiaethau Llafur ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot—wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid hyd at ddiwedd y llynedd. Cywilydd. Rwy'n erfyn ar y Prif Weinidog i siarad â'i gyd-Aelodau yn y blaid a'u cael i symud ar y mater hwn. Yma, yn ein Senedd genedlaethol, yn ein cynghorau ac yn ein cymunedau, gallwn achub bywydau. Gallwn gynnig hafan ddiogel i'r bobl druenus hyn. Mae gennym ddyletswydd foesol i weithredu, ac rwy'n dweud eto wrth y Prif Weinidog fod yn rhaid iddo weithredu yn awr i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth a all i helpu pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn.
I gloi, fe ellid ac fe ddylid dweud llawer mwy am y mater hynod o gymhleth a phwysig hwn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, hoffwn gloi gyda'r un safbwynt ag a roddais ar y cychwyn: nid yw Plaid Cymru yn cefnogi'r ymosodiad awyr symbolaidd hwn dan arweiniad America ar Syria, ac unwaith eto rwy'n atgoffa'r Aelodau nad yw'r llwybr i heddwch byth wedi ei balmantu ag arfau rhyfel.