Dadl Frys: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 7:24, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud pa mor falch yr wyf ein bod yn trafod y cyrchoedd ar Syria yma yn y Siambr hon. Mae'n ymddangos yn hynod bwysig i mi ein bod yma wrth galon democratiaeth Cymru a'n bod yn trafod y mater pwysig iawn hwn. Yn amlwg, nid yw materion rhyfel a heddwch wedi eu datganoli, fel y nododd arweinydd y tŷ yn glir yn gynharach yn y dydd. Gwneir y penderfyniadau hynny, yn amlwg, yn San Steffan. Fodd bynnag, credaf fod pobl Cymru am inni drafod y materion hyn sydd o bwys enfawr yma yn y Siambr hon. Maent am glywed beth yw ein barn. Ac wrth gwrs, mae gennym Syriaid yn byw yma gyda ni yng Nghymru, ac mae hi mor bwysig, rwy'n meddwl, ein bod yn rhoi ein safbwyntiau yma.

Hoffwn ailadrodd y pwynt ynglŷn â'r modd y mae'r ymosodiadau hyn yn digwydd heb un bleidlais yn y Senedd. Galwyd y Cabinet ynghyd. Pam na chafodd y Senedd ei galw? Gellid bod wedi galw'r Senedd yn hawdd, ac mae'n gwneud ichi deimlo na chafodd y Senedd ei galw yn fwriadol; fod yr amseru wedi digwydd yn y fath fodd fel bod y Senedd wedi cael ei hanwybyddu. Oherwydd datblygwyd confensiwn gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn ymgynghori â'r Senedd ar faterion yn ymwneud â rhyfel a heddwch. Digwyddodd hyn pan oeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin a chafwyd dadl a phleidlais ar ryfel Irac yn 2003, a dyna un o'r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol i mi gymryd rhan ynddi erioed. Cafwyd pleidlais o blaid safbwynt y Llywodraeth Lafur ar y pryd, er bod llawer o bobl yn edifar ynglŷn â sut y gwnaethant bleidleisio yn ddiweddarach. Ond o leiaf cafwyd dadl, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonoch yn gwybod beth a ysgrifennwyd ar garreg fedd Robin Cook:

Efallai na lwyddais i atal y rhyfel, ond fe sicrheais hawl y Senedd i benderfynu ar y rhyfel.

Ond fel y digwyddodd, ni chafwyd dadl y tro hwn. Ni phenderfynwyd yn gadarn o blaid yr hawl honno. Ond ers hynny, bu nifer o achlysuron pan gafodd y Senedd ei hailymgynnull, a chyfeiriwyd eisoes heddiw at 2013.

Ar ôl i'r ymosodiadau awyr ddigwydd yr wythnos diwethaf, ddydd Sadwrn, euthum at gerflun Aneurin Bevan yng nghanol Caerdydd lle'r oedd llawer o bobl wedi ymgynnull yn teimlo braidd yn ddiobaith ac yn bryderus ynglŷn â'r hyn a oedd wedi digwydd, a rhoddodd llawer o bobl eu barn ar yr hyn a deimlent ynglŷn â'r cyrchoedd awyr. Clywyd amryw o safbwyntiau, ac un o'r prif resymau oedd ofn y byddai'r sefyllfa'n dwysáu'n gynyddol—yr ofn y byddai hyn yn arwain at rywbeth mwy. Pryder arall oedd natur anrhagweladwy Trump, a'r ffaith ein bod yn y sefyllfa hon gyda Trump, a'r pryder mawr ynghylch ei arfer o lunio polisi drwy drydar. Cefais fy syfrdanu heddiw—rydym wedi siarad heddiw am y cymorth dyngarol a roddir gan wahanol wledydd—wrth ddarllen mai 11 yn unig o ffoaduriaid o Syria a gafodd eu derbyn i'r Unol Daleithiau ers mis Tachwedd diwethaf, a dim ond 44 yn y chwe mis diwethaf. Mae hynny'n cymharu â 6,000 yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Felly, ble mae'r teimladau dyngarol gan Trump o ran peidio â chroesawu neb i mewn, ond mae wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad hwn.

Heddiw, mae llawer o bobl wedi sôn am y ffoaduriaid o Syria yn dod i Gymru. Yn sicr, o ran yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU, teimlaf y gallem fod wedi cymryd llawer iawn mwy o ffoaduriaid o Syria, a chredaf hefyd fod y diffyg gweithredu ynghylch plant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid ar ôl pasio gwelliant Dubs yn destun cywilydd enfawr—ein bod yn anffodus wedi gwneud cam â'r holl blant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid.

Felly, rwy'n credu mai ofn dwysáu cynyddol yw un o'r pryderon mawr ynghylch yr ymosodiadau hyn, ac mae'n bwysig nodi'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, oherwydd, wrth gwrs, fe ddywedodd fod y defnydd o arfau cemegol yn gwbl wrthun ac erchyll. Gwn fod pawb ohonom yn cytuno'n llwyr â hynny. Ond fe ddywedodd,

Rwy'n annog yr holl aelod-wladwriaethau i ymatal yn yr amgylchiadau peryglus hyn, ac i osgoi unrhyw weithredoedd a allai ddwysáu'r sefyllfa a gwaethygu dioddefaint pobl Syria.

Nid wyf yn meddwl y gellir cael ateb milwrol i'r broblem hon byth. Mae ateb diplomyddol yn anodd, a gwyddom ei fod wedi cael ei geisio, ac mae'n anodd tu hwnt ond rhaid inni barhau i fynd ar drywydd sefyllfa ddiplomyddol, waeth pa mor anodd yw hynny. Mae hon yn sefyllfa mor gymhleth fel na fydd ymosodiadau awyr ar eu pen eu hunain yn y ffordd hon byth yn arwain at heddwch.