Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae ein camau gweithredu yn canolbwyntio ar ddarparu'r cyfleoedd a'r gefnogaeth y mae menywod eu hangen i ddod o hyd i swydd, i ddychwelyd i'r gwaith a chamu ymlaen yn y gweithle er mwyn cyflawni a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys ein cynnig gofal plant, annog menywod i ddilyn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, rhaglenni gwella sgiliau a hyfforddiant, prentisiaethau i bobl o bob oed a mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle.