Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:45, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fore dydd Sadwrn, 14 Ebrill, ymunodd lluoedd y DU â byddinoedd yr Unol Daleithiau a Ffrainc i gyflawni cyrchoedd awyr yn erbyn targedau yn Syria. Cafodd safleoedd y credid eu bod yn gysylltiedig â chynhyrchu a storio arfau cemegol gerllaw Damascus a Homs eu taro mewn ymateb i ymosodiad cemegol honedig ar 7 Ebrill. Ni ymgynghorodd Llywodraeth y DU ag unrhyw un o Seneddau eraill y DU i geisio eu cymeradwyaeth i'r ymosodiad. Rwyf wedi cyflwyno cais am ddadl frys ar y mater hwn cyn gynted â phosibl. Lywydd, ni ellir gorbwysleisio brys a difrifoldeb y pwnc hwn, ac ni ellir ei grynhoi mewn araith fer fel hon. Fodd bynnag, mae fy nghais am ddadl yn seiliedig ar dair elfen allweddol.

Yn gyntaf, heb y mymryn lleiaf o gyfreithlondeb democrataidd, heb un bleidlais yn Senedd y DU, cymeradwyodd Llywodraeth y DU yr ymosodiad. Yn dilyn cyhoeddi manylion yr ymosodiad, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn dangos ei gefnogaeth iddo. Mae'n rhaid i'r ACau gael cyfle i graffu ar y Prif Weinidog mewn perthynas â'r datganiad hwn a'i resymau dros gefnogi'r ymosodiad. At hynny, mae'n rhaid i'r Aelodau gael cyfle i drafod rôl ein sefydliadau democrataidd yn cymeradwyo ymosodiad milwrol.

Yn ail, Lywydd, mae cyfran sylweddol o rengoedd milwrol y DU yn cynnwys menywod a dynion Cymru. Yn wir, rydym yn gwneud cyfraniad mwy na chyfran ein poblogaeth. Felly, nid yw ond yn iawn i'r Cynulliad hwn gael cyfle i drafod goblygiadau posibl y penderfyniad hwn, ac unrhyw ymosodiad milwrol dilynol, i aelodau o'r lluoedd arfog o Gymru ac yng Nghymru.

Yn olaf, Lywydd, mae'r gwrthdaro yn Syria eisoes wedi arwain at ddadleoli degau o filoedd o bobl. Rwy'n falch fod Cymru wedi cynnig diogelwch a lloches i rai o'r bobl hyn. Mae'r ffaith bod y rhyfel cartref yn Syria yn dwysáu yn debygol o orfodi mwy o bobl i ffoi o'u cartrefi a'r ardal. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon flaenoriaethu ymdrechion i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu ac i ddarparu ar gyfer y bobl hyn sydd mewn angen dybryd. Gwaith y Cynulliad hwn yw sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ac yn barod i gynorthwyo'r ffoaduriaid a greodd y gwrthdaro hwn.

Lywydd, mae yna lawer mwy o resymau cymhellol pam y mae'n rhaid i ni drafod y mater hwn, boed yn ymwneud â diffyg democratiaeth y penderfyniad i ymosod, datganiad y Prif Weinidog, yr effaith ar filwyr Cymru, y gost, nad yw'n ymddangos ei bod yn cael ei chwestiynu'n aml, er gwaethaf cyni, neu, yn syml, ein dyngarwch fel cenedl. Buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi'r cais a rhoi cyfle i ni drafod y mater difrifol hwn.