Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae'r Cynulliad yn ymgysylltu â phobl Cymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Rydym yn ymgysylltu â phobl ar-lein, yn cyfathrebu ar brint ac yn cwrdd â hwy mewn digwyddiadau a gweithdai i'w hannog i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad. Llynedd, siaradom â bron i 50,000 o bobl mewn ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac mewn digwyddiadau ledled y wlad.