Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymrwymedig i leihau gwastraff, gan gynnwys lleihau gwastraff plastig untro ar yr ystâd. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni ein hymrwymiad i leihau'r swm o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi i sero erbyn 2018. Ym mis Ionawr, gwnaethom ymrwymiad i ddefnyddio dewisiadau amgen yn lle plastig untro, lle bo'n bosibl, o fewn chwe mis. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hyn, gan gynnwys dileu cynwysyddion dresin salad unigol, a chyn hir, byddwn yn newid i ddefnyddio cyllyll a ffyrc y gellir eu compostio ar gyfer bwyd tecawê. Mae amrywiaeth o opsiynau eraill yn cael eu harchwilio.