Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd hyd yn hyn, ac mae yna rywfaint o newyddion calonogol mewn perthynas â'r ymdrechion i leihau'r defnydd o blastig untro yn y Cynulliad. Roeddwn eisiau gofyn pa gamau pellach y gellir eu cymryd fel prynwr mawr yng Nghaerdydd a de Cymru, ac fel arweinydd yn hyn o beth. A yw'r Comisiwn yn siarad â'i gyflenwyr? Oherwydd, yn ogystal â'r plastig untro rydym yn ei ddefnyddio, y gadwyn gyflenwi sy'n darparu'r bwyd a phopeth arall a ddefnyddiwn yn y lle hwn sydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o blastig. Mae pawb yn ceisio lleihau hyn, ac o bosibl, yn ceisio ei ddileu'n llwyr dros gyfnod o amser. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich pŵer prynu i ddylanwadu ar gyflenwyr yn ogystal?