Part of QNR – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
Rydym yn gweithredu ar yr ymrwymiadau yn y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, addysgu plant a phobl ifanc am berthnasoedd iach, gweithio gyda’r sawl sy’n cyflawni’r weithred, ariannu llinell gymorth i oroeswyr, a hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod arwyddion cam-drin a thrais ac i weithredu ar sail hynny.