Gwasanaethau Dementia

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52037

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:30, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi cwblhau ymgynghoriad yn ddiweddar ar ddatblygu tair canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal dementia yn ei ardal ac mae'n gweithio gyda'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol i weithredu'r cynllun gweithredu newydd ar ddementia.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan i gau ward dementia St Pierre yn Ysbyty Cymuned Cas-Gwent wedi cael ei feirniadu'n hallt gan bobl â dementia a'u teuluoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ymddangos nawr y gallai'r penderfyniad wynebu her gyfreithiol gan Gyngor Sir Fynwy gan ei bod hi'n ymddangos bod dadl gref dros adolygiad barnwrol, a bydd cam o'r fath yn amlwg yn niweidiol â dweud y lleiaf i'r berthynas rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r bwrdd iechyd lleol am ei benderfyniad, ac a wnewch chi bwyso ar y bwrdd i ystyried gwrthdroi'r penderfyniad hwn, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mater i'r bwrdd iechyd yw cynllunio a dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y boblogaeth. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd yr Aelod, ceir pryderon ymhlith y cyhoedd oherwydd cau'r ward yng Nghas-gwent. Deallaf fod y cyngor iechyd cymuned wedi mynegi cefnogaeth gyffredinol o ran y model cymunedol. Rydym ni'n gwybod bod gwasanaethau cymunedol yn cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau priodol ac amserol mor agos at eu cartrefi â phosibl. Mae'r bwrdd wedi cytuno ar £200,000 o refeniw cylchol pellach i barhau i ddatblygu gwasanaethau cymunedol yn sir Fynwy i gydnabod effaith y newid hwn i'r gwasanaeth.

Nawr, cyn belled ag yr ydym ni fel Llywodraeth yn y cwestiwn, wrth gwrs, nod ein cynllun dementia yw cryfhau gwasanaethau yn y gymuned, i alluogi derbyniadau i'r ysbyty oherwydd dementia naill ai gael eu hosgoi, neu arwain at arhosiad byrrach.