Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 24 Ebrill 2018.
Nid wyf i'n credu fy mod i wedi mynegi ffafriaeth gref i'r naill lwybr na'r llall, ac ni allaf wneud hynny, gan mai fi fydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod problem. Gallwn i gyd weld beth yw'r broblem yn nhwnelau Bryn-glas, ac nid yw'r broblem honno'n un hawdd i'w datrys. Byddaf yn ystyried tystiolaeth yr arolygydd cynllunio ar ôl i mi gael y dystiolaeth honno. Ond nid yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae'n ymwneud â'r metro a gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus yn addas i'w ddiben. Rydym ni'n gwybod bod 11 miliwn o bobl yn mynd trwy orsaf Caerdydd Canolog bob blwyddyn. Mae'r nifer yn siŵr o gynyddu. Nid oes unrhyw ateb ar y ffyrdd i bobl sy'n dod o'r gogledd i Gaerdydd. Does dim—wyddoch chi, allwn ni ddim ehangu Ffordd y Gogledd. Bydd man tagfa ar yr A470 bob amser wrth i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Mae'r ateb i hynny yn amlochrog, i mi. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau amlach ar y rheilffyrdd presennol, gwell gwasanaethau, gwasanaethau fforddiadwy, rheilffyrdd newydd yn cael eu hagor, yn enwedig trwy reilffyrdd ysgafn, a hefyd, wrth gwrs, hyrwyddo teithio llesol. Gwn fod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Lanelli yn mynd i bwysleisio hynny, ac mae'n hollol iawn i wneud hynny, gan fod gan Gaerdydd botensial mawr i sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio beiciau ac yn cerdded er mwyn cyrraedd y gwaith. Felly, ydy, mae ffyrdd yn bwysig, rydym ni'n gwybod hynny, ond felly hefyd y trenau, rheilffyrdd ysgafn a thrwm, ac wrth gwrs yr hyn a ystyriwyd yn draddodiadol fel hamdden gan rai, ond sy'n fath o drafnidiaeth mewn gwirionedd, sef beicio.