1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Ebrill 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gyfarwydd â'r wireb fod pob bywyd gwleidyddol yn gorffen mewn methiant, oni bai ei fod yn cael ei atal hanner ffordd ar adeg hapus. A yw gyrfa wleidyddol y Prif Weinidog yn dal i fod hanner ffordd, ac a yw hon yn adeg hapus?
Wel, rwy'n credu bod arweinydd UKIP yn enghraifft o fywyd ar ôl marwolaeth mewn gwleidyddiaeth, er nad wyf i'n siŵr pa fath o fywyd gwleidyddol ydyw iddo fe. O'm safbwynt i, rwyf i wedi amlinellu amserlen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wlad yn cael parhad, ac wrth gwrs mae'n bwysig bod popeth yn ei le i baratoi ar gyfer fy olynydd, pwy bynnag y gallai fod.
Wel, byddwn yn hiraethu ar ei ôl ar ôl iddo fynd. A hoffwn symud ymlaen nawr. Nid wyf i'n gwybod beth yw amcanion hirdymor y Prif Weinidog, a pha un a yw'n bwriadu sefyll i fod yn Aelod o'r Cynulliad yn etholiadau nesaf y Cynulliad ac, felly, i ba raddau y mae'n cynnal diddordeb ym mha un a fyddwn ni'n ehangu maint y sefydliad hwn ai peidio. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cychwyn ar ymarfer ymgynghori, nad yw ei ganlyniadau wedi eu cyhoeddi eto, ond does neb wir wedi canfod y teimlad ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, cyn belled ag y gwn i, ac felly mae UKIP wedi llenwi'r bwlch ac wedi cynnal arolwg barn, a gynhaliwyd gan Opinion Research, cwmni ymchwil i'r farchnad uchel ei barch. A gofynasom i'r cyhoedd, 'A ydych chi'n cefnogi cynnydd i nifer yr Aelodau Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, o 60 i 80 neu 90?' Dim ond 32 y cant o ymatebwyr oedd o blaid cynnydd, nid yw 42 y cant a 26 y cant yn gwybod. A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n iawn y dylem ni fwrw ymlaen â'r ymarfer hwn heb fynd â'r cyhoedd gyda ni?
Wel, fe gawn ni weld beth sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf o ran pa un a yw UKIP yn gywir yn eu dadansoddiad o farn y cyhoedd. Os yw'n dymuno gwybod fy nghynlluniau i ar ôl 2021, mae croeso iddo geisio ymuno â'r Blaid Lafur a dod i bwyllgor rheoli cyffredinol Plaid Lafur nesaf etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n siŵr y bydd yn ddoethach o ganlyniad i hynny.
A gaf i ddweud ei bod hi'n bwysig iawn bod y ddadl hon yn un synhwyrol ac nad yw'n cael ei hysgogi gan yr hyn a ystyrir yn hwylustod gwleidyddol? Rwyf i wedi bod yn y Cynulliad hwn ers 1999. Rwy'n cyfaddef mai dim ond ychydig dros flwyddyn wnes i ei dreulio ar y meinciau cefn, ond gwn fod pwysau a straen aruthrol ar aelodau'r meinciau cefn o bob plaid, gan ein bod ni wedi symud ymlaen o fod yn rhywbeth a oedd, i bob pwrpas, yn fath o gorff gweinyddol. Rwy'n cofio sefyll yn y fan yma—neu yn yr hen adeilad—a chyflwyno'r Gorchymyn tatws sy'n tarddu o'r Aifft a'r Gorchymyn gwyniaid rhy fach, ac roeddem ni'n harfer eu trafod. Nid oedd lefel y craffu yn agos at fod mor drylwyr ag y mae erbyn hyn o reidrwydd, ac mae'n rhaid adlewyrchu hynny, nid yn unig o ran arferion gweithio'r Aelodau, ond o ran nifer yr Aelodau, gan ein bod ni wedi datblygu ymhell y tu hwnt i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ym 1999, ac mae'n rhaid cael trafodaeth synhwyrol ynghylch beth yw'r nifer gywir o ACau. Rwy'n sylwi bod gan Ogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth ychydig dros hanner poblogaeth Cymru, 109, a bod gan yr Alban 129. Mae'n rhaid i ni edrych yn synhwyrol ac yn ofalus ar beth yw'r nifer cywir i'r Cynulliad.
Wel, clywaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, ein bod ni oll yn gorweithio, ond nid wyf i'n siŵr a yw hynny'n mynd i fod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd. Cyn sefydlu'r Cynulliad, wrth gwrs, roedd refferendwm, a cyn ei cynyddu pwerau'r Cynulliad, cynhaliwyd refferendwm yn 2011. Pam na ddylem ni gael refferendwm o ran a ddylid ehangu maint y Cynulliad ar yr achlysur hwn?
Wel, mae'r Aelod yn sôn am newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol. Nid wyf i'n credu bod hwn yn un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n berffaith bosibl i bleidiau ystyried hyn a mynd a'u hachos i bobl Cymru drwy etholiad—os dyna'r hyn sydd ei angen—ond, yn sicr, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus am hyn bob amser ac ni fydd byth yn boblogaidd dweud wrth bobl, 'Gadewch i ni gael mwy o wleidyddion'. Gadewch i ni oll dderbyn hynny, ond rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ddadlau yn erbyn hynny trwy ddweud wrth bobl fod yn rhaid i ni gael y nifer gywir o bobl i wneud y gwaith yn iawn. Nid yw o fudd i neb cael Aelodau'r Cynulliad mewn sefyllfa lle efallai nad ydyn nhw'n gallu, yn y dyfodol, craffu yn y ffordd y byddent yn dymuno, ac mae honno'n sefyllfa y mae angen i ni ei hosgoi trwy ystyried y niferoedd a fyddai yn y corff hwn yn y blynyddoedd i ddod.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Cyn fy nghwestiynau, hoffwn gydnabod y cyhoeddiad a wnaed gan y Prif Weinidog dros y penwythnos. Prif Weinidog, rydych chi wedi bod yn y swydd hon ers amser maith ac rydych chi wedi cael tymor hirfaith yn y Llywodraeth cyn dod yn Brif Weinidog, a gwn eich bod chi a minnau wedi cael ein hanghytundebau gwleidyddol, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i gael yr anghytundebau hynny, ond rwyf wir yn dymuno'r gorau i chi, a'ch teulu, ar gyfer y dyfodol.
Nawr, mae gennym ni amser i'ch dwyn i gyfrif o hyd, ac rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn disgwyl i ni roi'r gorau i hynny. Gyda hynny mewn golwg, a allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, faint o bobl yng Nghymru sydd wedi eu cyflogi ar gontract dim oriau? A yw wedi hynny cynyddu neu ostwng ers 2016?
Mae'n anodd iawn rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, nid yw'r sector preifat yn rhywbeth sy'n dod o dan ein rheolaeth, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, er hynny, wrth gwrs, yw gwahardd contractau dim oriau yn y sector cyhoeddus, i bob pwrpas. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr o hyn, er enghraifft, yn y sector gofal. Mae'r sector gofal yn sector sylfaenol, cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, a byddwn yn defnyddio ein pwerau i'r eithaf—byddwn yn gwthio ffiniau ein pwerau—i wneud yn siŵr nad yw contractau dim oriau yno, cyn belled ag y mae'r sector cyhoeddus yn y cwestiwn. Mae gwaith i'w wneud, eto, o ran sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus yn sicrhau nad oes unrhyw gontractau dim oriau ar waith pan eu bod yn is-gontractio, mae hwnnw'n faes y mae angen gwneud peth gwaith arno o hyd.
Wel, efallai y gallaf i eich helpu, Prif Weinidog. Yn ôl cyfran, mae mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU erbyn hyn. Os caf ei roi mewn ffordd arall, o dan Lywodraeth Lafur, mae mwy o bobl fesul pen o'r boblogaeth mewn gwaith dim oriau, ansefydlog nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. A allai'r Prif Weinidog gyfeirio'r 43,000 o bobl yng Nghymru sydd ar gontractau dim oriau at y man yng nghynllun gweithredu economaidd ei Lywodraeth lle mae strategaeth i atal yr arfer cyflogaeth gwrthun hwn?
Dau beth: yn gyntaf, bydd yn yn y contract economaidd. Bydd pwyslais trwm iawn ar gyflogaeth deg. Yn ail, fel y cyhoeddais ddydd Sadwrn, bydd comisiwn gwaith teg yn cael ei sefydlu. Swyddogaeth y comisiwn hwnnw fydd edrych ar holl ysgogiadau—rhai deddfwriaethol o bosibl, rhai ddim—er mwyn sicrhau, cyn belled ag y gallwn ni fynd o ran y pwerau sydd gennym, ein bod wir yn gwneud Cymru yn wlad gwaith teg.
Wrth gwrs, mae rhai pobl eisiau hyblygrwydd y math hwn o gyflogaeth, ond nid yw hynny'n wir i'r mwyafrif. A dweud y gwir, mae'n debyg bod Llafur wedi ymrwymo i roi terfyn ar eu defnydd. Nawr, gyda hyn mewn golwg, hoffwn eich cyfeirio at dudalen 45 o faniffesto etholiad 2017 y blaid Lafur. Ochr yn ochr â brolio am hanes, sy'n amlwg yn ffug, Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar y defnydd o gontractau dim oriau, mae'n cynnwys ymrwymiad i ddeddfu yn eu herbyn. Gwyddom o draed moch cap cyflog y GIG bod gan y Llywodraeth hon dueddiad i wadu ei maniffesto ei hun. Felly, beth am y rhaglen lywodraethu? A dyfynnaf o dudalen 13 eich rhaglen lywodraethu, sy'n dweud y byddwch yn,
'cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau'.
Felly, gadewch i mi ofyn cwestiwn syml i chi, Prif Weinidog: a wnaethoch chi gamarwain pobl, neu ai anfedrusrwydd sydd wedi arwain Cymru i fod yn brifddinas contractau dim oriau y DU?
Pan ddaw i'r sector cyhoeddus, rydym ni wedi cyflawni. Rydym ni wedi sicrhau bod llawer llai o gontractau dim oriau. Rydym ni eisiau eu lleihau cymaint â phosibl o ran is-gontractwyr hefyd. Ond yr ail bwynt yw hyn: mae hi'n iawn i dynnu sylw at faniffesto etholiad cyffredinol 2017. Wrth gwrs, byddai hwnnw wedi defnyddio pwerau nad ydynt ar gael i ni fel sefydliad datganoledig neu Llywodraeth er mwyn bwrw ymlaen i greu gwlad gwaith teg ar draws y DU gyfan. Yn anffodus, ni welsom Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol bryd hynny, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, y bydd gennym ni Brif Weinidog Llafur.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf i gytuno â sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn cydnabod y datganiad a wnaethoch i gynhadledd y Blaid Lafur, Prif Weinidog? Bydd amser i dalu teyrnged yn y Siambr hon i'ch cyfnod mewn bywyd a gwasanaeth cyhoeddus yn y fan yma fel Prif Weinidog a Gweinidog, ond, heb amheuaeth, yn amlwg, bydd hyn yn creu etholiad yn y Blaid Lafur nawr i ddod o hyd i olynydd i chi. Ond yn y cyfnod hwnnw y byddwch chi'n dal i fod yn Brif Weinidog, dymunaf y gorau posibl i chi, a gobeithiaf yn y pen draw y byddwch chi'n gallu cadw olwynion y Llywodraeth yn symud yn eu blaenau, oherwydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon yn y lle hwn, efallai fy mod i'n anghytuno'n wleidyddol â chi a'r Aelodau ar y fainc flaen yna, ond mae 3 miliwn o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud mewn llu o wasanaethau cyhoeddus, ac yn y pen draw yn amlwg y gwasanaethau cyhoeddus hynny yw rhan bwysicaf yr hyn sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.
Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi am y cynllun gweithredu economaidd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Un o elfennau allweddol o unrhyw gynllun gweithredu economaidd, does bosib, yw cynyddu cyflogau yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod bod gennym ni'r cyflogau isaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—£498 yw'r cyflog net cyfartalog yma yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o £550. Rydym ni'n gwybod fel ffaith, ers dechrau datganoli—bod pecyn cyflog yng Nghymru £49 yn llai na phecyn cyflog yn yr Alban, a oedd, ar ddechrau datganoli, yn union yr un fath i weithiwr yng Nghymru a gweithiwr yn yr Alban. Pam, gyda 17,500 o eiriau yn y cynllun gweithredu economaidd, y cyfeirir at gyflogau ddim ond dwywaith os nad yw'n flaenoriaeth i'ch Llywodraeth wneud yn siŵr ein bod ni'n cau'r bwlch hwnnw i adfywio ein cymunedau yng Nghymru yn economaidd?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i mi nodi, wrth gwrs, nad yw lleihau neu ddileu budd-daliadau mewn gwaith wedi helpu o ran cyflogau net pobl yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld yr effaith y mae hynny wedi ei chael. Nid ydym mewn sefyllfa mwyach, yn anffodus, o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU, lle gallwn ni ddweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd', a does bosib nad yw hynny'n anghymhelliad i bobl gael cyflogaeth.
Gofynnodd beth fyddwn ni'n ei wneud. Wel, ceir dau fater yma: yn gyntaf oll, gwaith teg—gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cyflog diwrnod teg am ddiwrnod teg o waith, a dyna fydd cyfrifoldeb y Comisiwn Gwaith Teg. Ac, yn ail, cynhyrchiant: heb os, mae cynhyrchiant yn arwain at godi cyflogau pobl. Nawr, mae hon yn broblem i'r DU gyfan. Mae'n broblem y gwn sy'n fwy difrifol yng Nghymru, rwy'n derbyn hynny, ond mae'n fater y dylem ni i gyd ymdrechu i'w ddatrys. Pam, er enghraifft, mae gweithiwr yn yr Almaen yn cael llawer mwy allan o'r un peiriant nag y byddai gweithiwr yn y DU? Wel, mae hyfforddiant yn rhan ohono, pwyslais trwm ar hyfforddiant, pa un a yw'n hyfforddiant mewn swydd trwy gyflogwyr—mae Twf Swyddi Cymru yn enghraifft o hynny—hefyd, wrth gwrs, gweithio gyda'n colegau addysg bellach i wneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu hincwm personol, a dyna'r ffordd, i mi, ceisio cynyddu gwerth ychwanegol gros y pen.
Fel y dywedais, yn anffodus, dros yr 20 mlynedd, rydym ni wedi gweld y bwlch enfawr hwnnw'n agor rhwng gweithiwr yn yr Alban a gweithiwr yng Nghymru, ac yn amlwg, yn anffodus, mae Cymru yn aros ar waelod y tabl cynghrair pan ddaw i gyflogau. mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r ateb a roesoch i mi yn rhoi llawer o ffydd i mi y bydd newid mor fawr â hynny erbyn dechrau'r 2020au, yn sicr, os nad canol y 2020au. Byddai'r arian hwnnw'n dod i mewn i gymunedau ar hyd a lled Cymru does bosib na fyddech hi'n cytuno yn adfywio'r cymunedau hynny, ac un elfen allweddol o weithgarwch economaidd yw adeiladu tai. Rydym ni wedi clywed eisoes gan yr Aelod dros Gaerffili am y pwysigrwydd o adeiladu tai. Cafwyd gostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai yn Nghymru y llynedd. Nawr, os oes gennych chi gyflogau is, yna mae gennych chi alw isel am dai, oherwydd yn amlwg mae'n anodd dadlau'r achos economaidd i adeiladwyr tai fuddsoddi mewn ardaloedd. Felly, does bosib na allwch chi weld y cysylltiad. Pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn fwy rhagnodol o ran y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo gwaith adeiladu tai yng Nghymru? Oherwydd, fel y dywedais, gwelsom ostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai yma yng Nghymru dim ond y llynedd.
Wel, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos ein bod ni'n parhau, byddwn yn dadlau, i fod â thueddiad cadarnhaol o ran nifer y cartrefi sy'n cael eu cwblhau yng Nghymru, gyda data mis Hydref i fis Rhagfyr 2017 yn dangos cynnydd o 29 y cant o'r chwarter blaenorol. Yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2017, cwblhawyd cyfanswm o 6,885 o anheddau newydd. Mae hynny'n gynnydd o 4 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2016.
Beth ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth? Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, sicrhau—[Torri ar draws.] Mae David Melding yn fywiog iawn heddiw, mae'n rhaid i mi ddweud. Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid, wrth gwrs, i gyflawni yn erbyn ein hymrwymiad allweddol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym ni Cymorth i Brynu—Cymru. Rydym ni'n gwybod bod hwnnw wedi ei sefydlu'n gadarn. Mae'n fuddsoddiad o £290 miliwn yn yr ail gam. Bydd hynny'n cefnogi'r gwaith o adeiladu dros 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021, gan helpu prynwyr tro cyntaf i gamu ar yr ysgol eiddo. Ac, wrth gwrs, y newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, byddan nhw'n helpu i ysgogi'r farchnad, yn enwedig i'r rheini sydd fwyaf mewn angen, sydd â'r incwm isaf. Rydym ni'n gweld, o'r ffigurau yr wyf i wedi eu rhoi eisoes, effaith gadarnhaol yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.
Mi fyddwn i'n falch iawn pe byddwn i'n gallu ymuno â chi trwy fod yn gadarnhaol am y ffigurau hynny, Prif Weinidog. Fel y nododd David Melding, mae angen 12,000 o dai y flwyddyn arnom ni i fodloni'r galw. Fel y dywedais, mae'r ffigurau—nid fy ffigurau i, ffigurau'r diwydiant—yn dangos gostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai y llynedd. Rydych chi wedi cyfeirio at gyfyngiadau o ran cyflogau yma yng Nghymru. Ar ôl 20 mlynedd o'r Blaid Lafur mewn Llywodraeth, ni yw'r wlad â'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig o'n cymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae hwnnw'n hanes gwarthus. Un o'r pethau yr ydych chi wedi eu hyrwyddo yn ystod eich amser fel Prif Weinidog, yn amlwg, yw ffordd liniaru newydd yr M4, gan eich bod yn credu y bydd yn creu potensial economaidd mawr nid yn unig i'r de-ddwyrain, ond ar draws coridor cyfan y de. A allwch chi ddweud yn hyderus, gyda'r bwriad a gyhoeddwyd gennych chi ddydd Sadwrn, y bydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd rhagddi ar sail y gefnogaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma—sef, parhau i gefnogi'r llwybr du—gan eich bod wedi nodi y bu hwnnw'n nod personol i chi ei gyflawni? Ac, gan ein bod ni'n gwybod erbyn hyn y bydd Prif Weinidog newydd, a allwch chi ddweud y bydd hynny yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru?
Nid wyf i'n credu fy mod i wedi mynegi ffafriaeth gref i'r naill lwybr na'r llall, ac ni allaf wneud hynny, gan mai fi fydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod problem. Gallwn i gyd weld beth yw'r broblem yn nhwnelau Bryn-glas, ac nid yw'r broblem honno'n un hawdd i'w datrys. Byddaf yn ystyried tystiolaeth yr arolygydd cynllunio ar ôl i mi gael y dystiolaeth honno. Ond nid yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae'n ymwneud â'r metro a gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus yn addas i'w ddiben. Rydym ni'n gwybod bod 11 miliwn o bobl yn mynd trwy orsaf Caerdydd Canolog bob blwyddyn. Mae'r nifer yn siŵr o gynyddu. Nid oes unrhyw ateb ar y ffyrdd i bobl sy'n dod o'r gogledd i Gaerdydd. Does dim—wyddoch chi, allwn ni ddim ehangu Ffordd y Gogledd. Bydd man tagfa ar yr A470 bob amser wrth i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Mae'r ateb i hynny yn amlochrog, i mi. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau amlach ar y rheilffyrdd presennol, gwell gwasanaethau, gwasanaethau fforddiadwy, rheilffyrdd newydd yn cael eu hagor, yn enwedig trwy reilffyrdd ysgafn, a hefyd, wrth gwrs, hyrwyddo teithio llesol. Gwn fod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Lanelli yn mynd i bwysleisio hynny, ac mae'n hollol iawn i wneud hynny, gan fod gan Gaerdydd botensial mawr i sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio beiciau ac yn cerdded er mwyn cyrraedd y gwaith. Felly, ydy, mae ffyrdd yn bwysig, rydym ni'n gwybod hynny, ond felly hefyd y trenau, rheilffyrdd ysgafn a thrwm, ac wrth gwrs yr hyn a ystyriwyd yn draddodiadol fel hamdden gan rai, ond sy'n fath o drafnidiaeth mewn gwirionedd, sef beicio.