Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 24 Ebrill 2018.
Mae Ffrind i Mi yn brosiect ardderchog, wrth gwrs, a ddatblygwyd gan fwrdd Aneurin Bevan. Rydym ni'n gwybod, pan fo pobl yn unig, nad yw'n gwestiwn o'r ffaith nad oes ganddyn nhw gwmni a'r synnwyr o arwahanrwydd yn unig, ond mae'n effeithio ar iechyd pobl. Dyna pam, yn amlwg, fel bwrdd iechyd, y mae'n briodol cymryd rhan yn y gwaith o wneud yn siŵr bod unigrwydd fel mater yn cael sylw.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni wedi comisiynu gwaith ymchwil ar 23 Ebrill yn ystyried egwyddorion sylfaenol dulliau gwirfoddoli cymunedol cynaliadwy i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn. Nid dyma'r teitl mwyaf bachog a ddyfeisiwyd gan y Llywodraeth erioed, efallai—serch hynny, mae'n esbonio'r hyn y mae'n mynd i'w wneud. Mae hwnnw yno, wrth gwrs, i'n galluogi i ddarganfod beth yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael ag unigrwydd mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr bod yr hyn a ddatblygir yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod mor effeithiol ag y gall fod.